Mae lleoliad gofal plant newydd sbon wedi’i gwblhau yn Ysgol Gynradd Waunceirch fel rhan o gynnig Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gynnig rhagor o gyfleusterau gofal plant i rieni sy’n gweithio.
Ariannwyd y lleoliad gwerth £700,000 yn rhannol drwy grant gwerth £610,000 gan Lywodraeth Cymru a £90,799 ychwanegol gan y cyngor. Hwn yw’r cyntaf o nifer o leoliadau i’w leoli mewn ysgolion, gyda chyfanswm o dros £4m o fuddsoddiad drwy gyllid cyfalaf Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru a rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Mae lleoliadau gofal plant eraill wedi’u cynllunio yn Ysgol Gynradd Abbey (Castell-nedd) ac Ysgol Gynradd Rhos ar y gweill ar gyfer 2022. Hefyd, bydd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i gwblhau dau leoliad gofal plant Cymraeg arall yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn yn Llansawel ac Ysgol Gynradd Cwmllynfell, a fydd yn agor ym mis Medi 2021.
Dewiswyd y lleoliadau yn seiliedig ar Archwiliad Digonolrwydd Gofal Plant blynyddol Castell-nedd Port Talbot, a nododd fod diffyg cyfleusterau gofal plant ar hyn o bryd i wasanaethu Cynnig Gofal Plant Cymru mewn rhai ardaloedd.
Meddai’r Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, “Rwy’n falch o weld y lleoliad gofal plant cyntaf yn agor yn Ysgol Gynradd Waunceirch.
“Rydym yn ymrwymedig i ddarparu cyfleusterau ychwanegol ar draws y fwrdeistref sirol i helpu sicrhau nad yw gofal plant yn rhwystr i’r rhieni hynny sydd am ddychwelyd i’r gwaith.
“Gall lleoliadau gofal plant hefyd fod yn ffordd wych i blant gwrdd â ffrindiau newydd, datblygu sgiliau cymdeithasol a dysgu sgiliau newydd ar gyfer pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol llawn amser.”
Mae gan y lleoliad, a elwir yn Woodlands Childcare, ddigon o le i ofalu am hyd at 32 o blant rhwng 2 a 12 oed. Mae’n cynnig ystod o wasanaethau fel clwb cyn ysgol, gofal plant diwrnod llawn a hanner diwrnod, gofal cyn ac ar ôl ysgol, clwb ar ôl ysgol a sesiynau clwb yn ystod y gwyliau. Hefyd mae’n darparu gwasanaeth cludiant i ysgolion cynradd lleol ac oddi yno, cartrefi teuluoedd a chlybiau allgyrsiol ar ôl ysgol.
Meddai Nicola Manley, perchennog Woodlands Childcare, “Mae’n fraint cael bod yn rhan o ymrwymiad y cyngor i ddatblygu cyfleusterau gofal plant i blant a theuluoedd y gymuned. Mae’r cyfleuster newydd yn ein galluogi i gynnig profiadau o safon gan sicrhau trosglwyddiad llyfn i’r ysgol, rhywle y gall plant wneud ffrindiau a lle y gall rhieni elwa o gael y plant i gyd yn yr un lle ar ddiwedd y dydd.”
Mae’r gyllideb ar gyfer y lleoliadau’n rhan o gynllun Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru sy’n ceisio helpu gyda chostau gofal plant rhieni plant 3 i 4 oed sy’n gweithio. Drwy’r cynllun gall rhieni hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant ac i wneud cais amdano, ewch i: https://www.npt.gov.uk/childcareoffer?lang=cy-gb
Am ragor o wybodaeth am Woodlands Childcare, e-bostiwch woodlandschildcare2@gmail.com
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle