Mae systemau camerâu lleoedd cyhoeddus yng Nghastell-nedd Port Talbot yn mynd i gael eu cyfnewid am gamerâu cylch-cyfyng digidol modern a fydd yn canolbwyntio ar gadw pobl yn ddiogel.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi gweld fod angen adnewyddu’i systemau camera lleoedd cyhoeddus presennol, ac mae’n chwilio am gwmni technoleg arbenigol i wneud y gwaith.
Mae gan system y cyngor – sy’n edrych dros leoedd cyhoeddus ledled y fwrdeistref sirol – ryw 50 o gamerâu, ac mae’r cyngor yn gofyn am dendrau i adnewyddu’r rhain â rhwydwaith fodern a gysylltir yn ddigidol, a fydd yn gallu cynhyrchu delweddau â diffiniad uwch.
Defnyddir y system CCTV i ddarparu amgylchedd mwy diogel i bawb drwy ddiogelu pobl ac eiddo, rhwystro pobl rhag troseddu a helpu i’w ddatrys pan fydd yn digwydd.
Fel sawl rhwydwaith CCTV awdurdod lleol a ddatblygwyd ynghanol y 1990au, mae’r system angen cael ei hadnewyddu â systemau camerâu digidol erbyn hyn, ac mae proses dendro sy’n chwilio am gontractwr arbenigol i ymgymryd â’r gwaith o gynllunio a gosod ar y gweill.
Cafodd dechrau’r broses dendro ei groesawu gan y Cynghorydd Leanne Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Gwarchod y Cyhoedd.
Meddai hi: “Mae ein systemau camerâu’n helpu i wella diogelwch y cyhoedd, helpu’r heddlu i adnabod a lleihau troseddu yn y fwrdeistref sirol a helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Dyma un o blith nifer o bethau a ddefnyddir gennym, gan weithio law yn llaw â Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Castell-nedd Port Talbot Fwy Diogel i wneud ein cymunedau’n fwy diogel, ac mae’n hanfodol ein bod ni bellach yn dechrau ar y broses o adnewyddu ein system â’r dechnoleg fwyaf diweddar.
“Mae CCTV hefyd yn rhoi presenoldeb gweladwy, ac ar yr un pryd mae’n rhoi cysur i’n cymunedau.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle