“Dylai buddsoddi mewn teithio gweithredol a seilwaith gwyrdd fod er budd ein cymunedau – nid eu anfantais” – mae’r Blaid yn ymateb i gynlluniau Llywodraeth Cymru i rewi prosiectau adeiladu ffyrdd newydd

0
388
Delyth Jewell MS,

Wrth ymateb i’r newyddion bod pob prosiect adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru yn cael ei rewi tra bod llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad, meddai Llefarydd Plaid Cymru dros Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth Delyth Jewell AS, 

“Wrth i ni geisio adfer o’r pandemig, mae gennym gyfle i adeiladu cenedl a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol. Mae buddsoddi mewn teithio actif a seilwaith gwyrdd yn rhan allweddol o’r Gymru honno yr ydym am ei hadeiladu.

“Er fod y cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn arwydd eu bod o ddifrif ynglŷâ mynd ir afael ag allyriadau carbon, mae’n golygu bod cymunedau sydd wedi bod yn hen aros am fuddsoddiad mewn prosiectau seilwaith yn cael eu gadael ar ôl. Mae cymunedau fel Llandeilo,

sy’n ddealladwy ddig bod hyn wedi’i gyhoeddi heb ymgynghori, wedi gweld lefelau llygredd aer yng nghanol eu tref yn codi yn uwch na’r safonau cenedlaethol a bydden nhw yn siwr yn elwa o’r math o fuddsoddiad seilwaith a addawyd ond sy wedi cael ei oedi’n barhaus am y chwe blynedd diwethaf. 

“Yn 2016 cytunodd y Blaid Lafur i gyflawni ffordd osgoi Llandeilo fel rhan o gytundeb cyllideb ffurfiol gyda Plaid Cymru mewn ymgais i fynd i’r afael â’r llygredd aer yng nghanol y dref. Mae’r penderfyniad hwn, ynghyd â’u gwrthodiad i ariannu ffordd feicio rhwng Llandeilo a Caerfyrddin, yn amheus.

“Gweledigaeth Plaid Cymru yw Cymru fel cymuned rhyng-gysylltiedig o gymunedau, gwydn, llewyrchus, iach ac amgylcheddol gadarn. Dylai gwelliannau trafnidiaeth gyhoeddus mawr chwarae rhan hanfodol mewn unrhyw gynlluniau adfywio – cysylltu ein rhanbarthau a’n cymunedau sydd wedi’u datgysylltu a gwneud y mwyaf o’u potensial economaidd. Y tu hwnt i gwblhau prosiectau ffyrdd sydd eisoes ar y gweill i Brosiect Cynllun Buddsoddi Seilwaith Cymru, dylai’r nod fod ar gyfer system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, gyda mwy o ddibyniaeth ar ddulliau teithio sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle