Prosiectau lleol yn elwa o’r grantiau Gweithredu dros Natur

0
310
Capsiwn: Mae deg prosiect lleol sydd ag effaith amgylcheddol gadarnhaol wedi elwa o'r rownd gyntaf o gyllid gan gynllun grantiau bach Gweithredu dros Natur.

Mae deg prosiect lleol sydd ag effaith amgylcheddol gadarnhaol wedi elwa o’r rownd gyntaf o gyllid gan gynllun grantiau bach Gweithredu dros Natur.

Lansiwyd y cynllun yn gynharach eleni, sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i gefnogi prosiectau lleol sydd naill ai’n cefnogi bioamrywiaeth, yn cyflawni ar gadwraeth neu newid yn yr hinsawdd, neu’n darparu addysg ar unrhyw un o’r uchod.

Dyfarnwyd grant bach o £500 neu lai i 10 prosiect cymunedol, er bod y cynllun mor boblogaidd fel ei bod ond yn bosibl dyrannu cyllid i draean o’r prosiectau oedd wedi ymgeisio.

Daeth un o’r ceisiadau llwyddiannus gan Gyngor Cymuned Amroth, sy’n cwmpasu pentrefi Amroth, Summerhill, Wisemans Bridge, Pleasant Valley a Llan-teg. Yn awyddus i gynyddu bioamrywiaeth a chefnogi pryfed peillio yn yr ardal, byddant yn defnyddio’r cyllid i ddatblygu dôl gymunedol o flodau gwyllt.

Daeth cais llwyddiannus arall gan Support the Boardwalk, grŵp cymunedol wedi’i leoli yn Aberllydan. Mae llwybr pren Slash Pond yn cynnig dros 275 metr o lwybr pren hygyrch gwrthlithro, o amgylch pwll hudolus sy’n cefnogi bioamrywiaeth a hamdden ac addysg. Bydd y grant bach yn cael ei ddefnyddio i glirio’r tyfiant cyrs o amgylch ymylon y pwll a’r llwybr pren ac i dorri’n ôl y tyfiant helyg o flaen y llwyfan gwylio.

Hefyd dyfarnwyd grant bach i Ysgol Maenclochog i addasu ardaloedd o amgylch tir yr ysgol a chyfleuster chwaraeon cyhoeddus i ddenu a chynnal bywyd gwyllt a hyrwyddo lles meddyliol drwy well cysylltiadau â natur. Ymhlith y cynefinoedd bioamrywiaeth mae ardal fach o weirglodd, citiau blychau adar, offer arolygu a byrddau gwybodaeth dwyieithog ar gyfer y safleoedd.

 Dywedodd Gwyneth Hayward, Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Roeddem yn falch iawn o weld cymaint o ddiddordeb yn y cynllun a’r amrywiaeth eang o brosiectau ag effaith amgylcheddol gadarnhaol sy’n cael eu cynnal yn yr ardal leol. Yn anffodus, roedd y diddordeb yn y gronfa yn fwy na swm y grant oedd gennym i gefnogi prosiectau, a dim ond i draean o’r rhai a wnaeth gais yr oeddem wedi gallu dyfarnu grant iddynt.

Mae’r cyllid ar gyfer y grant wedi dod o’r Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gyda chymorth gan Gyllid Llywodraeth Cymru (adferiad gwyrdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri) yn ogystal â’r arian a godir gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

I ddarganfod mwy am y cynllun Gweithredu dros Natur, cofrestrwch i dderbyn newyddion Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro drwy ymweld â www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/dechrau-sgwrs-gyda-ni/.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif yr elusen gofrestredig yw 1179281.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle