Mesurydd plât yw’r dull y mae llawer yn ei ddewis i sicrhau cywirdeb data glaswellt, ond mae arbrawf yn dangos bod delweddau lloeren yn cau’r bwlch

0
324

Mae fferm laeth yng Ngheredigion yn defnyddio data lloeren i lywio penderfyniadau yn ymwneud â rheoli’r borfa ac mae’n cynnal arbrawf i brofi cywirdeb y data o’i gymharu â mesurydd plât.

Mae Ffosygravel, safle ffocws Cyswllt Ffermio ger Borth, yn cynhyrchu dros hanner ei allbwn llaeth o borthiant.

Felly, mae ansawdd a chyfaint glaswellt yn allweddol i’r system ar y fferm 102 hectar (ha), ac mae rheoli glaswelltir yn dda yn caniatáu i’r teulu Griffiths gyflawni hyn o’r fuches o 183 o wartheg Holstein a Friesian.

“Rydym ni wedi bod yn fferm bori erioed, ac mae’r gwartheg allan cyn gynted â phosibl ac am gyn hired â phosibl,” meddai Martin Griffiths. “Mae ein system yn seiliedig ar borfa a silwair o ansawdd uchel, ac mae’n talu ar ei ganfed.”

Mae’n gweithio gyda Cyswllt Ffermio i werthuso potensial defnyddio technoleg lloeren ar gyfer mesur glaswellt mewn system bori gyda chefnogaeth Sarah Morgan o Precision Grazing.

Dywedodd Ms Morgan wrth ffermwyr a fu’n gwrando ar weminar diweddar gan Cyswllt Ffermio mai mesur gyda mesurydd plât oedd y dull mwyaf poblogaidd gan y rhan fwyaf o ffermwyr er mwyn mesur y borfa, a bod y dull hwn yn cael ei gydnabod yn ddull dibynadwy.

Roedd cerdded y caeau yn rhoi cyfle i ffermwyr nid yn unig asesu ansawdd glaswellt yn weledol ond hefyd i wirio cafnau dŵr a ffensys ac i fonitro caeau ar gyfer chwyn, meddai.

Ond mae systemau lloeren yn gallu defnyddio data dyddiol heb yr ymrwymiad amser ar gyfer mynd ati i fesur y glaswellt yn ffisegol, meddai Ms Morgan.

Gan fod y dechnoleg yn dal i fod yn gymharol newydd, mae’r prosiect yn Ffosygravel wedi dangos bod cywirdeb y data ar hyn o bryd yn weddol debyg i’r mesurydd plât ac mae’n gwella’n wythnosol gydag adborth gan Mr Griffiths a ffermwyr eraill sy’n rhan o’r arbrawf.

“Os mae amser ar gyfer mesur glaswellt yn ffactor sy’n cyfyngu ar ffermwyr, gall systemau lloeren gynnig opsiwn arall,” meddai Ms Morgan.

Mae costau blynyddol y ddwy system yn gymharol.

Yn seiliedig ar ofynion fferm laeth 150 ha, a chan gymryd bod y gwaith mesur am dair awr yr wythnos am 40 wythnos yn costio £15 yr awr mewn llafur, mae casglu data gyda mesurydd plât yn costio £1,900 y flwyddyn, gan gynnwys ffi danysgrifio o £100 ar gyfer rhaglen reoli glaswellt Agrinet.

Byddai’r gost flynyddol ar gyfer system lloeren a ddarperir gan ruumi ar yr un daliad yn costio £1,800 yn seiliedig ar y strwythur brisio bresennol.

Dywedodd arweinydd peirianneg ruumi, Britta Weber wrth fynychwyr y weminar mai un o’r cyfyngiadau presennol gyda delweddau lloeren yw methu â chasglu data trwy gymylau, a dywedodd bod ruumi yn mynd i’r afael â hyn drwy integreiddio technoleg lloeren radar.

“Mae mesur gyda mesurydd plât yn fwy dibynadwy ar hyn o bryd ond rwy’n siŵr y bydd lloeren yn dal i fyny’n fuan yn enwedig ar ôl cyflwyno lloeren radar,” meddai Ms Morgan.

Dywedodd Mr Griffiths ei fod yn hapus iawn gyda pha mor sydyn y mae’r dechnoleg yn datblygu.

“Ar hyn o bryd, mae’r cywirdeb o ran data deunydd sych ar y borfa er mwyn llywio penderfyniadau ar fferm laeth yn gwella, ac mae’r ffordd y mae’r dechnoleg yn datblygu’n wych,” meddai. “Mae’r delweddau lloeren yn gywir iawn a byddai modd i mi ddweud wrthych chi pa ddiwrnod yr aeth y lloeren dros y tir, a dangos lle mae padogau’n cael eu rhannu gyda ffens.”

Mae technoleg delweddau lloeren yn datblygu’n gyson ac mae Cyswllt Ffermio yn edrych ymlaen at allu rhannu cynnydd y prosiect yn ddiweddarach yn y tymor.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle