Ar gamera – arferion syfrdanol wrth sinc y gegin

0
270
  • Sioc a syndod aelwydydd wrth wylio fideo o’u harferion wrth sinc y gegin (LINK TO FOOTAGE).
  • Ymwybyddiaeth isel o faint o ddŵr rydyn ni’n ei ddefnyddio yn y cartref go iawn.
  • CCW yn herio defnyddwyr i feithrin eu ‘synnwyr sinc’ er mwyn defnyddio dŵr yn fwy ystyriol.

Tywallt tomen o olew coginio wedi’i ddefnyddio i lawr y sinc a gadael y tap i redeg am dros 23 munud – dim ond ychydig o’r arferion gwael a gafodd eu recordio ar gamera, fel rhan o waith ymchwil hynod ddiddorol sy’n edrych ar arferion Prydeinwyr cyffredin wrth sinc y gegin.

Gan ddefnyddio camerâu sensitif i symudiadau, cafodd ymchwilwyr gyfle i arsylwi ar arferion 15 o aelwydydd gwahanol ledled Cymru a Lloegr, am wythnos – cyn ailchwarae’r adegau allweddol i gyfranwyr i weld pam maen nhw’n ymddwyn mewn ffyrdd penodol. Cafodd llawer eu syfrdanu gan arferion eu haelwyd.

Meddai Tony, 56 oed o Norwich, a gymerodd ran yn yr astudiaeth gyda’i wraig, Michelle, “Dw i wedi fy ffieiddio. Roedd o’n hollol ffiaidd! Mi gawn ni sgwrs go ddifrifol yn nes ymlaen.”

Roedd bron pob aelwyd yn ystyried eu hunain yn ecogyfeillgar, ond o ran eu gweithredoedd wrth sinc y gegin, roedd byd o wahaniaeth rhwng yr hyn roedden nhw’n ei ddweud a’i wneud. Yn aml, roedd ystyriaethau ymarferol, fel ceisio gwneud pethau’n gyflym neu adael i’r tap lifo er mwyn i’r dŵr gynhesu, yn amharu ar fwriadau da. Roedd llawer yn gwneud pethau fel mater o arfer heb feddwl am y canlyniadau.

Rydyn ni gyd yn fwy ymwybodol nag erioed o’r heriau sy’n wynebu’r blaned o safbwynt yr hinsawdd. Fodd bynnag, dyw llawer ddim yn ymwybodol o’r effaith y mae hyn yn ei chael ar ein cyflenwadau dŵr yma yng ngwledydd Prydain. Ar gyfartaledd, mae pob un ohonom yn defnyddio mwy na 142 litr o ddŵr y dydd – sy’n gyfystyr â dau lond bath o ddŵr! Mae’r fath lefel o ddefnydd dŵr a phoblogaeth sy’n tyfu yn rhoi pwysau aruthrol ar ein hadnoddau dŵr ac, o ystyried effeithiau’r newid yn yr hinsawdd hefyd, bydd angen i Loegr ddod o hyd i 4,000 miliwn ychwanegol o litrau o ddŵr bob dydd erbyn 2050. Bydd sawl rhan o’r DU yn wynebu prinder dŵr sylweddol, yn enwedig de-ddwyrain Lloegr. Bydd gwneud newidiadau bach yn y ffordd rydym yn defnyddio dŵr gartref yn helpu i sicrhau y bydd ein tapiau’n dal i lifo yn y dyfodol.

Roedd pawb a fu’n rhan o’r astudiaeth yn amcangyfrif eu defnydd o ddŵr yn llawer rhy isel – yn gyffredinol ac wrth sinc y gegin. Doedd llawer ddim yn gallu cofio pa mor hir wnaethon nhw adael i’r tap lifo – gydag amseroedd yn amrywio o 10 eiliad i 23 munud 10 eiliad. Gwelwyd y rhan fwyaf yn tywallt braster coginio i lawr twll y plwg – cryn dipyn ohono weithiau – gan greu perygl o flocio pibellau a draeniau.

Dywedodd Emma Clancy, Prif Weithredwr CCW, llais annibynnol defnyddwyr dŵr: “Rydyn ni i gyd yn byw bywydau prysur a dydyn ni ddim bob amser yn meddwl am sut mae ein harferion yn effeithio ar yr amgylchedd ehangach. Rydym yn annog pawb i ddatblygu eu ‘synnwyr sinc’ er mwyn arbed dŵr a chadw’n draeniau i lifo’n rhydd.”

Ewch ati i feithrin eich ‘synnwyr sinc’ gyda’r cynghorion syml hyn wrth sinc y gegin:

  • Defnyddio powlen golchi llestri

Mae defnyddio powlen golchi llestri nid yn unig yn diogelu eich gwydrau a’ch llestri rhag cael eu difrodi wrth olchi, ond gall hefyd leihau gwastraff dŵr 50%.

  • Diffodd y tap

Mae diffodd y tap wrth i chi olchi llestri yn gallu arbed 6 litr o ddŵr y funud.

  • Crafu saim a braster i’r bin

Mae hyd yn oed mymryn o saim a braster yn gallu cronni mewn pibellau a draeniau dros amser, gan achosi rhwystrau costus ac annymunol. Gall gostio tua £279 i ddadflocio draen preifat. Cofiwch waredu unrhyw frasterau coginio dros ben drwy adael iddyn nhw oeri mewn cynhwysydd cyn eu crafu’n syth i mewn i’r bin.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle