Mae Leza Williams o Hwlffordd am gyfrannu ei rhoddion pen-blwydd yn 55 oed i Ysbyty Llwynhelyg ar Ă´l cael triniaeth canser a achubodd ei bywyd.
Roedd Leza yn 55 oed ar 12fed Mehefin a dywedodd ei bod am ddefnyddioâr achlysur i ddweud diolch enfawr iâr rhai sydd wedi ei chefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf ers ei diagnosis o ganser y fron – ei theulu aâi ffrindiau aâr âGIG rhyfeddolâ.
Meddai: âDechreuodd gydag apwyntiad meddyg ar Ă´l dod o hyd i lwmp yn fy nghesail chwith. Yn ystod yr apwyntiad hwnnw daeth y meddyg o hyd i lwmp yn fy mron.
âEr ein bod yng nghanol pandemig byd-eang, dechreuais gemotherapi lai na mis ar Ă´l dod o hyd iâr lwmp. Diolch byth nad oedd y canser wedi ymledu. Dydi dweud na wnaeth fy nhraed gyffwrdd ââr llawr ddim yn gelwydd.
âYr hyn a ddilynodd oedd wyth rownd o gemotherapi dwys aâr angen am dri arhosiad ysbyty, ar yr Uned Canser Dydd, ward 10 ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Yn ystod pob arhosiad roedd pawb yn fy nghadw’n ddiogel. Roedd staff yr ysbyty yn wych.
âCefais mastectomi, ac yna ymweliadau cartref gan nyrsys ardal. Ac rydw i nawr, diolch byth, ar fy siwrnai o adferiad.
âFe wnaeth ymateb cyflym fy GIG lleol arbed fy mywyd! Roedd pawb yn anhygoel. â
Bydd yr arian a godir yn mynd i helpu Uned Canser Dydd Ysbyty Llwynhelyg, Ward 10 a nyrsys Macmillan yn yr ysbyty.
Dywedodd Leza ei bod hefyd yn ddiolchgar iawn iâw theulu a’i ffrindiau am bopeth wnaethant iddi.
Ychwanegodd: âRwyf am ddweud diolch i’m gĹľr rhyfeddol am yr holl ofal ac amynedd y mae wedi’i roi. Hefyd, i’m holl blant a’u partneriaid, fy rhieni, teulu agos a ffrindiau. Maen nhw wedi fy nghodi, fy nghefnogi a fy helpu i symud ymlaen. Gormod i’w grybwyll!
âRoedd y risg o COVID-19 yn golygu fod bod gydaân gilydd – hyd yn oed pan godwyd cyfyngiadau – yn amhosibl.
âCynigiodd ffrindiau eu cartref eu hunain ar gyfer fy mhlant, fel y gallent ynysu er mwyn fy nghadw’n ddiogel a chwifio ar dros ffens ardd. Mae’r gweddĂŻau, anrhegion, cardiau, bwyd, galwadau ffĂ´n, negeseuon, y rhestr yn ddiddiwedd. Rydyn ni mor ddiolchgar. â
Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn fod yr elusen yn ddiolchgar am y ymdrech codi arian Leza ar gyfer ei dathliadau pen-blwydd.
âMae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.â Os hoffech chi gyfrannu, ewch i:Â Leza Williams is fundraising for Hywel Dda Health Charities (justgiving.com).
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle