Elusennau Iechyd Hywel Dda ar offer awdioleg newydd ar gyfer Ceredigion

0
358
Mae lluniau'n dangos yr awdiolegydd Hannah Davies yn defnyddio'r tympanomedr.

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu offer diagnostig newydd i’w ddefnyddio gan awdiolegwyr yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth a Chanolfan Gofal Integredig Aberaeron.

Mae’r tympanomedr yn gwerthuso gweithrediad y glust ganol a drwm y glust a gall nodi amrywiaeth o gyflyrau gan gynnwys y glust ludiog, otosclerosis a chlefyd Menieres.

Mae lluniau’n dangos yr awdiolegydd Hannah Davies yn defnyddio’r tympanomedr.

Defnyddir yr offer mewn clinigau clust, trwyn a gwddf yn Ysbyty Bronglais a Chanolfan Gofal Integredig Aberaeron.

Dywedodd y Pennaeth Awdioleg Jane Deans: “Mae’r offer newydd yn darparu ystod o brofion ansawdd nad ydynt ar gael gyda’r offer cyfredol, gan ganiatáu inni ddarparu dehongliad cliriach o swyddogaeth y glust ganol a chynorthwyo i wneud diagnosis cliriach o gyflyrau’r glust ganol. Mae’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer profion ar fabanod a phlant ifanc iawn.

“Mae’r tympanomedr mor fuddiol, gan ganiatáu inni symleiddio apwyntiadau ac osgoi’r angen i gleifion fynd i safleoedd eraill Hywel Dda i gael profion.”

Mae pob ceiniog a roddir i’ch elusen GIG yn mynd yn uniongyrchol i helpu cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. I roi neu i godi arian ewch i: www.justgiving.com/hywelddahealthcharities


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle