Diweddariad amseroedd agor i glinigau cerdded i mewn yng nghanolfanau brechu torfol

0
332
Vaccines drawn up at a Hywel Dda mass vaccination centre

Bydd clinigau cerdded i mewn ar gyfer dos cyntaf ac ail ddos yn parhau i redeg ym mhob canolfan Hywel Dda ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Gwiriwch ameroedd agor eich ganolfan lleol isod a ffoniwch i dderbyn eich dos cyntaf, ar gael i bawb dros 18 mlwydd oed, neu os yw’n amser i chi gael eich ail ddos (wyth wythnos ar ôl eich dos cyntaf).

Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, SY23 3AS) – ar gau dydd Llun 19 hyd dydd Mercher 21 Gorffennaf. Clinigau cerdded i mewn ar agor pob diwrnod arall rhwng 10yb a 7yh. Breichlynnau Astrazenceca, Prizer a Moderna ar gael.

Aberteifi (Canolfan Hamdden Teifi SA43 1HG) – ar gau ddydd Llun 19 i ddydd Mercher 21 Gorffennaf. Clinigau cerdded i mewn ar agor pob diwrnod arall rhwng 10yb a 5yp. Nodwch mai Moderna fydd yr unig frechlyn ar gael ar wahan i ddydd Mawrth 20 Gorffennaf pan Pfizer fydd yr unig frechlyn ar gael.

Caerfyrddin – clinig cerdded i mewn (Canolfan Cynhadledd Halliwell, UWTSD, SA31 3EP)  – clinigau cerdded i mewn ar agor ddydd Sadwrn 17 rhwng 10yb a 6yp. Brechlynnau Astrazeneca, Pfizer a Moderna ar gael. Bydd y ganolfan ar gael rhwng ddydd Sul 18 Gorffennaf a dydd Sul 25 Gorffennaf.

Caerfyrddin canolfan gyrru drwodd(Maes y Sioe Unedig SA33 5DR) – clinig cerdded i mewn ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 10yb a 6yp. Bydd brechlynnau Astrazeneca a Moderna ar gael.

Hwlffordd (Archifau Sir Benfro, SA61 2PE) – ar gau ddydd Llun 19 a dydd Mercher Gorffennaf am glinigau cerdded i mewn rhwng 9yb a 5yp. Ar agor pob diwrnod arall am glinigau cerdded i mewn rhwng 10yb a 6yp. Bydd brechlynnau Astrazeneca, Pfizer a Moderna ar gael.

Llanelli (Theatr Ffwrnes SA15 3YE) – ar agor 7 diwrnod yr wythnos am glinigau cerdded i mewn rhwng 10yb a 6yh. Bydd brechlynnau Astrazeneca, Pfizer a Moderna ar gael.

Dinbych y Pysgod (Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod, SA70 8EJ) – ar agor dydd Gwener 16 i ddydd Sul 18 Gorffennaf a dydd Gwener 23 i ddydd Sul 25 Gorffennaf am glinigau cerdded i mewn rhwng 10yb a 4yh. Bydd brechlynnau Astrazeneca, Pfizer a Moderna ar gael.

Nid oes angen cysylltu â’r bwrdd iechyd cyn mynychu clinig cerdded i mewn ond os ydych eisiau trefnu apwyntiad gallwch dal wneud drwy gysylltu â’n tîm llogi ar 0300 303 8322 neu drwy e-bostio  COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle