O ganlyniad i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu chwe chadair lledorwedd ar gyfer ward Dyfi Ysbyty Bronglais i alluogi cleifion i eistedd a chysgu allan o’r gwely mewn cysur.
Y cadeiriau yw’r model a argymhellir ar gyfer cleifion cardiaidd sy’n defnyddio cadeiriau am gyfnodau hir. Heb y cadeiriau hyn, byddai’n rhaid i rai cleifion aros yn eu gwelyau, nad yw bob amser yn addas.
Dywedodd Prif Nyrs Ward Dyfi, Debbie Lovell: “Ar ochr gardiaidd Ward Dyfi mae yna gleifion nad ydyn nhw’n gallu cysgu mewn gwelyau oherwydd eu cyflyrau ac mae’r cadeiriau lledorwedd newydd hyn o fudd gwirioneddol. Mae’r cadeiriau hyn yn galluogi cleifion i gadw eu coesau yn uchel, sy’n helpu gyda chylchrediad.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhoddion sydd wedi galluogi i’r chwe chadair hyn gael eu prynu ar gyfer yr ystafelloedd.”
Yn y llun mae Sian Davies, Nyrs Staff ar ward Dyfi, gydag un o’r cadeiriau lledorwedd.
Os hoffech chi helpu eich elusen GIG i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, mae mwy o wybodaeth yn www.elusennauiechydhyweldda.org.uk.
Gallwch gyfrannu neu godi arian yn www.justgiving.com/hywelddahealthcharities.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle