Cadeiriau olwyn traethau Sir Benfro yn barod i fynd am dro unwaith eto dros yr haf

0
281
Caption: A beach wheelchair on the sandy foreshore of West Angle Bay in Pembrokeshire Coast National Park.

Mae fflyd o 14 o gadeiriau olwyn traeth wedi eu dylunio’n arbennig yn cael eu cyflwyno ar draws nifer o draethau hygyrch Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro mewn pryd ar gyfer tymor yr haf.

Mae’r prosiect yn cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan gymunedau a sefydliadau sydd wedi helpu i gyllido’r cadeiriau mewn blynyddoedd blaenorol.

Bydd y system newydd yn ffordd i bobl archebu eu cadair olwyn ar y traeth ymlaen llaw drwy safle archebu ar-lein yn www.pembrokeshirecoast.wales/beachwheelchairs, sy’n golygu y bydd cadair wedi ei chadw ar gael pan fyddant yn cyrraedd y traeth o’u dewis.

Dywedodd Sarah Beauclerk, Cydlynydd Mynediad Awyr Agored a Chadeiriau Olwyn ar y Traeth newydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Gyda llawer ohonom wedi treulio cyfran fawr o’n hamser yn cysgodi dan do dros y pandemig, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n dod o hyd i ffyrdd o gefnogi mynediad at draethau trawiadol y Parc Cenedlaethol, yn enwedig gan ein bod ni yn awr yn gwybod bod treulio amser yn ymgolli mewn natur yn gallu arwain at well llesiant corfforol a seicolegol.

 

“Erbyn hyn mae gennym 14 o gadeiriau olwyn traeth ar gael ar hyd Arfordir Sir Benfro, a fydd yn fodd i lawer o bobl sydd â chyflyrau sy’n effeithio ar eu symudedd ymweld â’r traeth hyd at y draethlin. Mae gwybodaeth a chanllawiau diogelwch ar gael ar y safle archebu y gall pobl eu darllen cyn archebu er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu defnyddio a gweithredu’r gadair yn ddiogel.

“Mae’r cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth yn cefnogi amcanion ‘mynediad i bawb’ Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Ni fyddai wedi bod yn bosibl iddynt fod ar gael ar gyfer y tymor hwn heb gyfraniad y busnesau a’r grwpiau cymunedol lleol sydd wedi bod yn hael iawn drwy gynnal cadair olwyn ar y traeth ar gyfer tymor yr haf.”

Mae mesurau diogelwch Covid-19 hefyd yn cael eu hymgorffori yn y system archebu, sydd wedi cael ei chreu i gynorthwyo’r rhai sy’n cynnal y cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth, gan gynnwys caffis ar lan y môr sy’n rhagweld y byddant yn neilltuol o brysur yn ystod yr haf. Dim ond tocyn a math dilys o ddogfen adnabod sy’n ofynnol i gadarnhau archeb cadair olwyn ar y traeth.

Mae cadeiriau olwyn safonol ar gyfer y traeth ar gael, a nifer fach o rai i blant hefyd. Bydd cadeiriau olwyn ar y traeth ar gael mewn dros saith o draethau hygyrch yn Sir Benfro.

Mae rhagor o wybodaeth am gadeiriau olwyn ar y traeth, costau archebu a’u lleoliadau ar gael ar y safle archebu:  https://www.pembrokeshirecoast.wales/beachwheelchairs.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect cadeiriau olwyn ar y traeth, cysylltwch â Chydlynydd Cadeiriau Olwyn y Traeth, Sarah Beauclerk, drwy e-bost: sarahb@pembrokeshirecoast.org.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle