“Dylai gweithwyr iechyd a gofal yng Nghymru fod â masgiau FFP3” – Plaid Cymru

0
348
Rhun ap Iorwerth AM, Leader of Plaid Cymru

Credir bod masgiau FFP3 hyd at gant y cant yn effeithiol o ran atal heintiadau Covid-19

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno masgiau FFP3 hynod effeithiol i weithwyr iechyd a gofal er mwyn atal heintiadau.

Mae ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt yn awgrymu y gall y mygydau, sydd wedi’u cynllunio’n benodol i hidlo aerosolau, atal heintio hyd at gant y cant. Canfu’r astudiaeth fod gan weithwyr gofal iechyd sy’n gweithio ar wardiau Covid-19 yr un gyfradd heintio â staff ar wardiau heb gleifion Covid-19 wrth ddefnyddio masgiau FFP3. Yn flaenorol, wrth ddefnyddio masgiau llawfeddygol sy’n gwrthsefyll hylifau, roedd gweithwyr iechyd ar wardiau Covid-19 bedwar deg saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu heintio.

Wrth ymateb drwy lythyr yr wythnos hon i gwestiynau a godwyd gan Rhun ap Iorwerth AS yn y Senedd, gwrthododd y Gweinidog Iechyd y mygydau manyleb uwch, gan ddweud ei fod yn mynd yn groes i gyngor, a chyfeirio at ‘gostau ychwanegol, anghysur ac effeithiau negyddol gorfod gwisgo cyfarpar diogelu personol ychwanegol’.

Dwedodd llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Rhun ap Iorwerth AS y bydd hyn yn newyddion gwael i weithwyr iechyd sydd hefyd yn mynnu gwarchodaeth ychwanegol.

Dywedodd Mr ap Iorwerth bod “dadl cryf” dros ddefnyddio masgiau FFP3, a nododd fod gan Lywodraeth Cymru “gyfrifoldeb” i gadw heintiau ymhlith staff rheng flaen mor isel â phosibl.

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae’r dystiolaeth gref sy’n awgrymu effeithiolrwydd masgiau FFP3 yn creu dadl cryf y dylai gweithwyr iechyd a gofal yng Nghymru fod â’r mygydau hyn.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i gadw heintiadau ymysg y gweithwyr hanfodol hyn mor isel â phosibl nid yn unig er mwyn y gweithwyr, ond hefyd er mwyn cynnal niferoedd staffio, cynnal gwasanaethau iechyd a gofal, ac atal achosion o Covid-19 yn y lleoliadau hyn ac yn y gymuned ehangach.

“Dylid defnyddio’r holl fesurau sydd ar gael i atal gweithwyr iechyd a gofal rhag cael eu heintio, ac mae cyflwyno masgiau FFP3 yn fesur syml sydd â’r potensial i gael effaith enfawr ar eu cyfraddau heintio.

“Mae defnyddio arbed costau fel rheswm i beidio â rhoi’r amddiffyniad i weithwyr iechyd a gofal y maent hwy eu hunain yn teimlo sydd ei angen arnynt yw taflu’n ôl atynt y cyfan y maent wedi’i wneud yn ystod y pandemig hwn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle