“Helpwch ni i gyflawni ein huchelgais i ddod y genedl fwyaf cyfeillgar i LGBTQ+ yn Ewrop”

0
287

Welsh Government

Gyda Llywodraeth Cymru yn addo i fod y genedl fwyaf cyfeillgar i LGBTQ+ yn Ewrop, lansiodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Partneriaethau Cymdeithasol, Hannah Blythyn, ymgynghoriad y Cynllun Gweithredu LGBTQ+ heddiw, a fydd yn amlinellu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflawni’r uchelgais hanesyddol yma.

Mae cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu yn ddechrau ar y broses ymgynghori i bawb ledled Cymru chwarae rhan yn y broses a helpu i sicrhau bod cydraddoldeb i bawb ac nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl yng Nghymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Partneriaethau Cymdeithasol, Hannah Blythyn:

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod cydraddoldeb i bawb ac nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl yma yng Nghymru felly rydw i’n falch iawn o gyhoeddi’r Cynllun Gweithredu LGBTQ+ trawslywodraethol heddiw.

Bydd y Cynllun Gweithredu, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â chynrychiolwyr o bob rhan o’r gymuned LGBTQ+, yn helpu i gydlynu’r gweithredu rhwng y Llywodraeth, rhanddeiliaid, y cyhoedd ac asiantaethau eraill, i gyflawni ein huchelgais i hyrwyddo cydraddoldeb LGBTQ+ yng Nghymru.

Mae’r cynllun yn nodi ystod eang o gamau gweithredu polisi-benodol sy’n ymwneud â Hawliau Dynol a Chydnabod; Diogelwch; Cartref a Chymunedau; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Addysg; a’r Gweithle, a thrwy fabwysiadu dull trawslywodraethol o weithredu sy’n ymdrin â phob maes polisi byddwn wir yn gallu sicrhau cydraddoldeb i bawb yng Nghymru.

Ar ddiwedd Mis Pride, nodais gamau allweddol ar y siwrnai tuag at sicrhau mwy o gydraddoldeb LGBTQ+ yng Nghymru. Heddiw, rydw i eisiau ailddatgan ein hymrwymiadau allweddol; ceisio datganoli pwerau sy’n ymwneud â’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd, defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i wahardd pob agwedd ar therapi trosi LGBTQ + a chefnogi digwyddiadau Pride ledled Cymru drwy noddi Pride Cymru, sefydlu Cronfa Pride ledled Cymru a phenodi Cydlynydd ledled Cymru.

Ein huchelgais yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb strwythurol tymor hir sy’n parhau i fodoli, herio gwahaniaethu a chreu gwlad heb ragfarn.”

 Gan amlinellu argymhellion yr adroddiad arbenigol, tynnodd y Dirprwy Weinidog sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â’r broses.

Meddai:

“Ochr yn ochr â’r Cynllun Gweithredu, rydw i hefyd yn rhyddhau Adroddiad y Panel Arbenigol Annibynnol sydd wedi bod yn sail i’r ymgynghoriad hwn.

 Hoffwn ddiolch i aelodau’r Grŵp Arbenigol am eu gwybodaeth, eu dirnadaeth a’u profiad. Mae hwn yn adroddiad arloesol sydd wedi tynnu sylw at nifer o themâu trawsbynciol i ni eu hystyried, er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau.

 Rydym yn gwybod nad yw’r frwydr dros gydraddoldeb drosodd, mae mwy i’w wneud bob amser, bydd lansio ein Cynllun Gweithredu heddiw yn caniatáu i bawb, ledled Cymru ein helpu i gyflawni ein nod i ddod y genedl fwyaf cyfeillgar i LGBTQ+ yn Ewrop.”

  

Dywedodd Cadeirydd y Grŵp LGBTQ+ Arbenigol Annibynnol, Lu Thomas:

“Mae gweinidogion wedi defnyddio’r ymadrodd: ‘Nid yw cynnydd byth yn anochel’ yn barhaus a gyda rhyddhau’r ymgynghoriad heddiw, mae’n dangos yn glir bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni cynnydd gwirioneddol yn ein cymdeithas ni.

Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio’n fwriadol ar groestoriad, gan sicrhau bod pob maes o’r Llywodraeth yn cydweithio, gyda rhanddeiliaid, grwpiau cymunedol ac unigolion o bob rhan o’n cymdeithas i ymgysylltu a chyfrannu at y cynllun.

 Dim ond drwy uno fel cenedl y gallwn ni gyflawni cynnydd gwirioneddol a chreu cymdeithas decach a mwy cyfartal yng Nghymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle