Mae gwasanaeth cymorth iechyd meddwl ar-lein yn gweld cynnydd o 72% yn nifer y bobl sy’n chwilio am gymorth, wrth i fwy o bobl gael gafael ar wasanaethau’r GIG yn ddigidol

0
269
Fionnuala Clayton SilverCloud Wales expert-

Mae gwasanaeth iechyd meddwl a lles ar-lein wedi gweld cynnydd o 72% yn nifer y bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda sy’n gofyn am gymorth wrth i’r cyfyngiadau symud lacio ledled y wlad.

Mae SilverCloud Cymru yn wasanaeth therapi ar-lein am ddim sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl 16 oed a hŷn, sy’n profi gorbryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol, i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles.

Does dim angen i feddyg teulu eich cyfeirio – gall pobl gofrestru a defnyddio gwasanaeth GIG Cymru unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar eu ffôn clyfar, eu tabled, eu gliniadur neu eu cyfrifiadur bwrdd gwaith.

Daw’r cynnydd mewn niferoedd wrth i dechnolegau newydd ganiatáu i fwy o bobl gael mynediad at wasanaethau’r GIG mewn ffyrdd gwahanol. Fel rhan o’i hymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi, mae Llywodraeth Cymru yn annog y cyhoedd i ddod i wybod am ehangder gwasanaethau’r GIG a’r opsiynau sydd ar gael iddyn nhw.

Mae’r data newydd gan SilverCloud Cymru yn dangos bod 72% yn fwy o bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth therapi ar-lein ym mis Mai 2021 o’i gymharu â mis Ebrill 2021.

Mae’r un data hefyd yn dangos cynnydd o 20% yn nifer y bobl ledled Cymru sy’n cofrestru i gael cymorth i reoli gorbryder cymdeithasol ym mis Mai 2021 o’i gymharu â mis Ebrill, sy’n dangos y gallai rhai pobl fod yn chwilio am gymorth i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles wrth i’r cyfyngiadau symud lacio.

Mae Alexandra Birell, Cynorthwyydd Seicoleg a Chydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol Clinigol Ar-lein ar gyfer SilverCloud Cymru, yn egluro pam y gallai mwy o bobl deimlo bod angen cymorth arnyn nhw i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles, yn enwedig gyda phryder, wrth i’r cyfyngiadau symud lacio yn ystod yr haf.

“Mae delio ag ansicrwydd wrth wraidd gorbryder yn aml, ac mae teimlo’n ddi-rym a diffyg rheolaeth yn aml wrth wraidd hwyliau isel.

“Fe wnaethom gael ein cyfarwyddo i aros gartref, a effeithiodd ar ein modd o ryngweithio â’n rhwydweithiau cymorth cymdeithasol, sydd fel arfer yn ein gwarchod rhag teimladau anodd. I lawer, daeth yr amodau hyn yn normal newydd. Nawr, wrth i’r cyfyngiadau symud lacio, mae gallu mentro allan o’r tŷ a rheoli rhyngweithio cymdeithasol yn creu teimladau o ansicrwydd.

“Wrth gwrs, bydd gan bobl deimladau gwahanol am hyn, yn dibynnu ar eu sefyllfa.

“Mae rhai pobl yn naturiol yn wyliadwrus, tra bo eraill yn manteisio ar y cyfle i ailgysylltu â’u hanwyliaid. Yr anhawster yw bod y gwahaniaethau hyn mewn ffiniau bellach yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ddysgu sut i’w gyfathrebu a’i lywio.”

Dywedodd Fionnuala Clayton, Prif Gynorthwyydd Seicolegol a Chydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol Clinigol Ar-lein ar gyfer SilverCloud Cymru, fod gwasanaethau fel SilverCloud Cymru yn profi i fod yn achubiaeth i lawer.

“Mae SilverCloud Cymru yn cynnig lle ar-lein i bobl archwilio eu heriau a’u profiadau personol mewn ffordd ddiogel a chyfrinachol. Gall dychwelyd i’r ‘normal’ fod yr un mor heriol â mynd i’r cyfyngiadau symud.

“Er ein bod i gyd wedi wynebu heriau gwahanol yn dibynnu ar ein hoedran, ein statws bregusrwydd, ein cyflogaeth a’n cylchoedd cymdeithasol, mae bob un ohonom â chyd-ddealltwriaeth bod Covid wedi cael effaith wirioneddol ar ein bywydau bob dydd.

“Mae’r heriau cyffredin rydyn ni’n eu clywed gan bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn amrywio o gynnydd mewn symptomau gorbryder cymdeithasol sy’n ymwneud â mesurau Covid yn cael eu llacio, unigrwydd a theimlo’n ynysig, a’r effaith mae’r pandemig wedi’i chael ar ein cysylltiadau ag anwyliaid, i’r rheini sy’n cael trafferth gyda threfn arferol, hwyliau isel ac weithiau o ganlyniad i hunan-barch a phryderon ynghylch delwedd y corff.”

Mae SilverCloud Cymru yn defnyddio Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) i helpu pobl i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles. Mae CBT yn gweithio drwy annog pobl i herio’r ffordd maen nhw’n meddwl ac yn ymddwyn, fel eu bod mewn sefyllfa well i ddelio â phroblemau bywyd.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig cymorth ar gyfer gorbryder, iselder, straen, cwsg, pryderon ariannol a mwy. Mae defnyddwyr yn dewis un o’r rhaglenni ar-lein rhyngweithiol, hawdd eu defnyddio, i’w cwblhau dros 12 wythnos ac er mwyn cael y canlyniadau gorau, maen nhw’n cael eu cynghori i ddefnyddio’r gwasanaeth 15-20 munud y dydd, dair neu bedair gwaith yr wythnos.

Er ei fod yn wasanaeth hunangymorth ar-lein, mae SilverCloud Cymru yn cael ei gefnogi a’i gynorthwyo gan dîm o seicolegwyr a chydlynwyr therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein.

Ychwanegodd Ms Clayton: “Mae defnyddwyr SilverCloud Cymru yn cael eu cefnogi drwy eu rhaglen ar-lein ddewisol gan Gefnogwyr SilverCloud sydd â chefndiroedd seicolegol ac sy’n gwybod sut i gael y gorau o’r rhaglen.

“Ni ddylai neb deimlo eu bod ar eu pen eu hunain gyda’u problemau. Mae wedi bod yn wych gweld therapi ar-lein SilverCloud Cymru yn cyrraedd cymaint o bobl, nid dim ond ar draws Powys, lle dechreuodd, ond sydd bellach ar gael i unrhyw glaf neu breswylydd yng Nghymru.”

I gael gwybod mwy ac i gofrestru, ewch i: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

Dewch o hyd i ni ar Twitter: https://twitter.com/SilvercloudW

Dewch o hyd i ni ar Facebook: https://www.facebook.com/SilverCloudWales.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle