Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn annog ymwelwyr â safleoedd archeolegol i #Droedio’nYsgafn

0
253
Capsiwn: Gofynnir i aelodau'r cyhoedd ddangos parch wrth ymweld â henebion archeolegol yn y Parc Cenedlaethol.

Mae’r cynnydd yn y diddordeb yn safleoedd archeolegol a hanesyddol Sir Benfro wedi ysgogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i atgoffa’r cyhoedd i barchu henebion archeolegol a’u cymunedau cyfagos, ac iddynt beidio â gadael unrhyw olion ar eu hôl.

Dros y misoedd diwethaf, mae cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â safleoedd fel Waun Mawn, Craig Rhos-y-felin a Charn Goedog wedi arwain at broblemau mynediad a thystiolaeth o ddifrod.

Daeth Waun Mawn i’r amlwg yn gynharach eleni yn dilyn rhaglen ddogfen gan y BBC, gan iddi ddamcanu y gallai hon fod yn ffynhonnell wreiddiol rhai o gerrig gleision enwog Côr y Cewri. Ers hynny, mae nifer yr ymwelwyr â’r ardal wedi cynyddu, ynghyd ag adroddiadau am ymddygiad diofal sy’n creu problemau i gymunedau lleol a’r safleoedd.

Mae rhai o’r problemau a wynebwyd hyd yma’n cynnwys tanau’n cael eu cynnau, cerrig yn cael eu difrodi neu’n cael eu symud, giatiau’n cael eu gadael ar agor ar dir ffermydd a phobl yn parcio’n anystyriol ar lonydd cul ac o flaen gatiau ffermydd.

Dywedodd yr Archeolegydd Cymunedol Tomos Ll. Jones : “Er ei bod yn wych bod pobl eisiau archwilio’r gorffennol, rhaid i ni gofio bod yr henebion hyn, sydd wedi hawlio eu lle ers miloedd o flynyddoedd, o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol mawr ac na ellir eu disodli.

“Mae llawer o’r henebion hyn wedi’u gwarchod rhag aflonyddwch gan y gyfraith, ac maent wedi’u lleoli ar dir preifat a mannau sydd â dynodiadau naturiol. O’r herwydd, byddai tarfu, difrodi neu symud unrhyw ddeunydd yn drosedd.

“Dylai ymwelwyr hefyd feddwl am y rheini sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal, gan wneud pob ymdrech i ddilyn y Cod Cefn Gwlad, gan gynnwys parcio mewn mannau priodol.”

Sefydlwyd cynllun Gwarchod Treftadaeth i ddiogelu treftadaeth yn ardal y Parc Cenedlaethol yn 2018, os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut mae helpu, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/gwarchodtreftadaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i #Droedio’nYsgafn wrth ymweld â safleoedd allweddol, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/troedion-ysgafn.

Mae dros 200 o deithiau gwe, gan gynnwys sawl llwybr o amgylch safleoedd treftadaeth, ar gael ar wefan y Parc Cenedlaethol yn www.arfordirpenfro.cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle