Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi lansio cronfa gwerth £300,000 i gynorthwyo sefydliadau cymunedol i ddarparu gwasanaethau ymyrryd yn gynnar ac atal.
Taliad grant untro yw’r Gronfa Sbarduno i helpu i sefydlu gwasanaeth neu weithgarwch newydd sy’n atal neu’n oedi person rhag bod ag angen cefnogaeth wedi’i threfnu gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y cyngor. Gall y gronfa gael ei defnyddio hefyd i ehangu gwasanaethau neu weithgareddau sydd eisoes yn bod.
Gallai fod yn wasanaeth neu’n weithgaredd sy‘n helpu gyda materion fel anabledd corfforol neu feddyliol person, camddefnyddio sylweddau, datblygiad plentyn neu arwahanrwydd cymdeithasol.
Bwriedir i’r grant fynd tuag at dalu costau cychwynnol a bydd angen i’r sefydliad ddangos y bydd yn cynnal ei hun ar ôl i’r grant gael ei ddyfarnu. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau ar gyfer oedolion neu blant a phobl ifanc.
Does dim terfyn ar y swm y gall sefydliadau wneud cais amdano.
Gall unrhyw sefydliad sector cyhoeddus, gwirfoddol neu drydydd sector neu gymuned nid er elw (gan gynnwys grwpiau a arweinir gan ddefnyddwyr gwasanaeth, cwmnïau cydfuddiannol a mentrau cymdeithasol) wneud cais am y grant.
Meddai’r Cynghorydd Peter Richards, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd, “Rydym yn cydnabod yn llwyr pa mor bwysig yw sefydliadau yn y gymuned er mwyn helpu i liniaru’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae’r Gronfa Sbarduno wedi’i lansio i gryfhau’r hyn sydd ar gael yn y gymuned i sicrhau y gall pobl gael cefnogaeth ar gam cynnar ac atal problemau rhag digwydd yn y lle cyntaf.”
I wneud cais am y grant neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch seedfund@npt.gov.uk. Rhaid i bob cais gael ei gyflwyno erbyn 5pm ddydd Llun 30 Awst 2021.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle