16 mis ar ôl i gyfnod clo Covid orfodi cau holl sesiynau CANU A GWENU yn ystod y dydd, bydd Elusen Golden-Oldies yn ailgyflwyno sesiynau ar draws Cymru a Lloegr yn yr wythnosau i ddod.
Wrth i’r wlad ddod allan o’r cyfnodau clo, mae cynlluniau ar y gweill i ailgyflwyno sesiynau Goldies a chaiff y grwpiau cyntaf yn Lloegr a Chymru eu rhestru islaw …
Cafodd yr elusen, a gaiff ei galw fel arfer yn ‘Goldies’ ei sefydlu gan y cerddor Grenville Jones yn 2007. Am flynyddoedd lawer bu Grenville, sy’n byw yng Nghaerfaddon, yn un o arweinwyr corau amlycaf Prydain ac wedi dysgu drosto’i hun am effeithiau cymdeithasol cadarnhaol canu mewn côr neu grŵp cerddorol.
“Roeddwn eisiau codi yn yr awyrgylch o hwyl a chyfeillgarwch a dod â hynny i bobl hŷn ac ynysig drwy sesiynau canu yn ystod y dydd gyda chaneuon poblogaidd y 60au ac ymlaen.
Arweiniodd Grenville ei hunan y pedair sesiwn gyntaf yng Nghaerfaddon a Bryste a’r cylch yn 2008 ac mae bob amser yn awyddus i danlinellu NAD canu corawl yw’r Elusen.
“Mae Goldies yn rhoi rhywbeth i bobl hŷn ac ynysig edrych ymlaen eto, cyfle i fynd allan, gwneud ffrindiau newydd a chyd-ganu’r caneuon poblogaidd hynny o’r gorffennol,” meddai.
O ddechrau bach, a gyda Syr Cliff Richard fel Llywydd, mae gwaith yr Elusen wedi tyfu ar draws Lloegr a Chymru (Goldies Cymru) a chyn y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020 roedd dros 200 o sesiynau cyd-ganu hwyliog Goldies yn ystod y dydd mewn llyfrgelloedd, ystafelloedd cymunedol a neuaddau eglwys, oedd yn cael eu harwain gan 74 o arweinwyr sesiwn lleol ymroddedig.
Y rhai oedd yn mynychu’r sesiynau oedd pobl hŷn, llawer ohonynt yn byw mewn tai cymunedol, oedolion gydag anawsterau dysgu a phobl yn byw gyda dementia – mae croeso i bawb mewn sesiwn Goldies.
Dros y blynyddoedd cafodd yr Elusen lawer iawn o gefnogaeth gan lawer o ymddiriedolaethau dyngarol, awdurdodau lleol, sefydliadau a’r Loteri Genedlaethol yn Lloegr a Chymru. Cafwyd hefyd gryn sylw i Goldies yn y cyfryngau dros y blynyddoedd a, drwy 2020, roedd opera sebon boblogaidd Emmerdale ar ITV yn cynnwys sesiwn Goldies yn ystod ei egwyl hysbysebu, a oedd yn bosibl oherwydd cefnogaeth Cronfa Gymunedol Loteri People’s Postcode.
Mae astudiaethau academaidd wedi cadarnhau manteision Elusen Golden-Oldies i bobl unig. Mae wedi gweithio gydag ysgolion cynradd mewn blynyddoedd diweddar gyda chefnogaeth gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ac yn 2018 enillodd Gategori Addysg Gwobrau’r Loteri Genedlaethol – prosiect yn seiliedig ar gerddoriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf.
Pan y’i gorfodwyd gan Covid i gau pob sesiwn, edrychodd Goldies ar y rhyngrwyd, Facebook ac YouTube i fynd â’i sesiynau hwyl i gartrefi pobl. Mae’r arweinwyr poblogaidd Rachel Parry a Cheryl Davies, y ddwy ohonynt yn byw yng Nghymru, yn arwain y sesiynau dwywaith yr wythnos dan faner www.goldieslive.com , gyda phobl yn ymuno o’u cartrefi ar draws Prydain. Bydd y rhan yn parhau hyd y Gwanwyn nesaf.
Mae cynlluniau’r elusen ar gyfer y dyfodol yn cynnwys ail Siop Elusen yng Nghaerdydd a chyflwyno gwaith yr elusen gyda phobl hŷn yn yr Alban. Nid yw Elusen Golden-Oldies yn un am aros yn ei hunfan. Mae bob amser yn dymuno recriwtio arweinwyr sesiwn newydd ar draws Prydain a chlywed gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ynysig. Y wefan yw’r man cychwyn gyda manylion cyswllt a gwybodaeth ddefnyddiol.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle