Teyrnged teulu i ferch a chwaer gariadus sydd wedi marw ar ȏl gwrthdrawiad

0
384

Mae teulu merch ifanc bu farw mewn damwain ar A478 ym Mhenblewin, Arberth, ar ddydd Gwener, 20 Awst, wedi mynegi eu tristwch yn dilyn colled eu merch a chwaer cariadus.

Bu farw Beca Mai Richards, 23, o Langain, Caerfyrddin, yn yr ysbyty heddiw (26 Awst).

Mae ei theulu wedi cyhoeddi teyrnged, lle maen nhw’n sôn am eu balchder wedi i Beca Mai, “sydd o hyd wedi gofalu dros eraill”, roi organau i helpu a rhoi bywyd gwell i eraill.

Dyma deyrnged y teulu: “Rydym wedi ein chwalu’n llwyr gan golled Beca. Roedd hi’n ferch, chwaer, ffrind ac athrawes llawn cariad a charedigrwydd ac yn un sydd o hyd wedi gofalu dros eraill. Rydym yn ymfalchïo y gwireddwyd dymuniad Beca, fel ei chymwynas olaf, i fod yn rhoddwr, er mwyn cynnig bywyd gwell i eraill. Fel teulu, hoffwn ddiolch i bawb, yn enwedig yr Uned Gofal Dwys ac Ambiwlans Awyr Cymru, am eu cefnogaeth a gofal dros y dyddiau diwethaf. Ein dymuniad nawr yw cael amser i alaru’n breifat.”

Mae’r teulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle