Lleihau cysylltiadau uniongyrchol yn lleihau’r risg o ledaenu Covid-19 ac yn cadw ysgolion ar agor

0
319

Mae’r tebygolrwydd o gael achosion o Covid-19 a symptomau hunangofnodedig, megis anwydau, mewn ysgol yn cynyddu yn unol â nifer y cysylltiadau uniongyrchol rhwng staff ysgol gynradd a phobl y tu allan i’w haelwyd.

Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe, nid oedd y tebygolrwydd o gael achosion o Covid-19 mewn ysgol yn cynyddu pan oedd plant o ddosbarthiadau gwahanol yn dod i gysylltiad â’i gilydd, er enghraifft yn ystod clybiau brecwast a gweithgareddau allgyrsiol, gan hybu cyfleoedd i blant gymdeithasu a chwarae gyda’i gilydd.

Ar ben hynny, daeth y tîm i’r casgliad nad oedd gorchuddion wyneb a chadw pellter cymdeithasol yn lleihau’r tebygolrwydd o gael achosion o Covid-19 mewn ysgol.

Mae’r astudiaeth, a arweinir gan ymchwilwyr o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd ac mae wedi cael ei chyhoeddi ar ffurf rhagargraffiad gan MedRxiv, gwefan a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu darganfyddiadau newydd ar faterion amserol cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i’w cyhoeddi mewn cyfnodolyn (*rhagor o wybodaeth isod).

Gwnaeth yr astudiaeth gysylltu arolwg staff a oedd yn archwilio mesurau lliniaru gwahanol mewn ysgolion â data profion am Covid-19 mewn ysgolion drwy ddefnyddio banc data SAIL, sy’n cadw data sy’n seiliedig ar unigolion y gellir ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil i wella iechyd, lles a gwasanaethau.

Ers dechrau’r pandemig, mae mesurau i atal neu leihau lledaeniad Covid-19 – megis cyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol a masgiau wyneb a rhoi terfyn ar glybiau brecwast a gweithgareddau allgyrsiol – wedi cael effaith aruthrol ar ddiwrnod arferol disgyblion cynradd.

Meddai Dr Emily Marchant: “Mae cadw ysgolion ar agor yn flaenoriaeth allweddol gan fod ein hymchwil flaenorol yn dangos bod cau ysgolion yn cynyddu anghydraddoldebau.

“Mae ein canfyddiadau’n dangos ei bod hi’n bwysig i staff ysgolion geisio lleihau nifer y cysylltiadau uniongyrchol mewn ysgolion er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r haint mewn ysgolion a sicrhau y gellir cadw ysgolion ar agor er mwyn diogelu iechyd, lles ac addysg plant.”

Dywedodd Dr Marchant fod yr ymchwil yn hanfodol wrth i blant a staff baratoi i ddychwelyd i ystafelloedd dosbarth gan fod llawer o ganllawiau megis gwisgo masgiau a chadw pellter cymdeithasol wedi cael eu newid.

“Rydym yn ddiolchgar i’r ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil hon, sy’n ein galluogi i gydweithio a chael gafael ar y dystiolaeth orau i amddiffyn plant, teuluoedd ac ysgolion.”

Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio’r dulliau lliniaru hyn a’u heffaith ar Covid-19, heintiau anadlol a lles staff rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020.

Gwnaeth yr ymchwilwyr ddadansoddi ymatebion 353 o bobl mewn 59 o ysgolion cynradd mewn 15 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ymchwil ddiweddaraf hon yn rhan o brosiect ConCOV (Rheoli Covid-19 drwy oruchwylio’r boblogaeth ac ymyrryd yn well), sef galwad ymateb cyflym i Covid-19 a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), er mwyn helpu i ddeall heriau’r pandemig a mynd i’r afael â hwy.

Bydd ConCOV yn parhau am 12 mis ac yn cynnig sylfaen ar gyfer ymchwil i lywio strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn rheoli’r feirws, diogelu’r boblogaeth gyffredinol a helpu i roi terfyn ar gyfyngiadau symud y DU. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan HDR UK (drwy gyllid y Cyngor Ymchwil Feddygol) ac ADR UK (drwy gyllid y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) ac mae’n ddibynnol ar fanc data SAIL ac isadeiledd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (drwy gyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru).

*Mae’r astudiaeth hon wedi’i rhagargraffu ac adroddiad rhagarweiniol ydyw o waith sydd heb ei ardystio eto drwy adolygiad gan gymheiriaid. Ni ddylid dibynnu ar ragargraffiad i lywio ymarfer clinigol nac ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd ac ni ddylai’r cyfryngau drafod y gwaith fel gwybodaeth sefydledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle