Datganiad a gytunwyd ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru

0
316

Wrth i Gymru baratoi am ddyfodol cryfach tu hwnt i’r pandemig coronafeirws; wrth ymateb i argyfwng yr hinsawdd ac i ganlyniadau parhaus ymadael â’r Undeb Ewropeaidd; a’r bygythiad i ddatganoli mae’n bwysicach nac erioed bod pleidiau gwleidyddol yn cydweithio ar ran pobl Cymru pryd bynnag y bydd ganddynt ddiddordebau cyffredin.

Cynhaliwyd trafodaethau dechreuol adeiladol rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Llafur Cymru i edrych ar ffyrdd o adeiladu cenedl fwy cyfartal, cyfiawn a democrataidd i bawb.

Mae’r trafodaethau hyn yn parhau i archwilio cytundeb cydweithredu uchelgeisiol i’w seilio ar nifer o flaenoriaethau polisi penodol, yn ogystal â threfniadau llywodraethiant lle gall Plaid Cymru a Llywodraeth Llafur Cymru weithio gyda’i gilydd i gyflawni dros Gymru.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle