Yr Ardd Fotaneg yn cael ei henwebu ar gyfer gwobr fyd-eang ddisglair

0
271

Mae atyniad newydd sbon yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi cael ei enwebu ar gyfer prif wobr ryngwladol.

Mae’r Prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth, sy’n cynnwys dau lyn newydd, pontydd, argaeau, cwympiadau dŵr, rhaeadr a rhwydwaith helaeth o lwybrau, a’r cyfan wedi’i osod mewn 300 erw o barcdir coediog, wedi cael ei roi ar restr fer Gwobr Dewis y Bobl Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) 2021.

Mae’r prosiect mwyaf o’i fath yng Nghymru wedi cymryd pum mlynedd i’w greu ac wedi costio £7.3 miliwn, a chafodd gymorth mawr gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’n un o chwe phrosiect ledled y byd sydd ar restr fer gwobr ICE. 

Dywedodd swyddog y prosiect, Angharad Phillips: “Mae’r dirwedd eisoes yn atyniad mawr ac yn boblogaidd iawn gyda’n hymwelwyr. Mae yna sylwadau gwych wedi dod i law, ac rydym hefyd wedi cael y nifer uchaf erioed o bobl trwy’r gât yr haf hwn.

“Rydym yn annog yr holl gefnogwyr newydd hyn, ynghyd â’n hen ffrindiau i gyd, i bleidleisio drosom yn y gwobrau mawreddog hyn.”

Esboniodd Angharad fod y llwyddiant yn ganlyniad i ymdrech enfawr a chydlynol a oedd wedi cynnwys y gymuned leol, haneswyr lleol, staff a gwirfoddolwyr yr Ardd Fotaneg, peirianwyr, penseiri ac archaeolegwyr, yn ogystal â chontractwyr amgylcheddol i adfer y dirwedd yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las yr Ardd mewn modd sympathetig.

Dywedodd Damian McGettrick, berchennog WM Longreach, y prif gontractwr: “Mae’n anrhydedd cael ein henwebu ar gyfer y wobr hon, ac rydym yn hynod o falch ein bod wedi bod yn rhan o’r tîm angerddol ac ymroddedig hwn”.

Gallwch ‘nawr bleidleisio yma dros y ‘Prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth’ fel eich hoff brosiect peirianneg sifil: https://bit.ly/3hcxVEf I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau ICE ac ymgais Gwobr Dewis y Bobl yr Ardd Fotaneg, ewch i Prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru | Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ice.org.uk)

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ardd Fotaneg, ewch i’n gwefan


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle