CYDWEITHWYR HSBC UK I GRYFHAU SGILIAU CYMRAEG YN EU CANGHENNAU YNG NGHYMRU

0
326

Mae HSBC UK wedi cyhoeddi heddiw bydd dros 50 o gydweithwyr ychwanegol ar gael i gryfhau’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn eu canghennau yng Nghymru. Bydd y weithred hon yn dyblu gallu’r iaith dros Gymru ac yn rhoi’r opsiwn i gwsmeriaid allu sgwrsio drwy gyfrwng y Gymraeg os dymunant.

Mae’r rhaglen, a gyflwynwyd gan HSBC UK, wedi’i dylunio i gefnogi eu staff dros Gymru i ddysgu neu gwella eu sgiliau Cymraeg. Fydd y menter hefyd yn rhoi mwy o gefnogaeth i’w cwsmeriaid sy’n bennaf yn siarad Cymraeg, yn enwedig yn ystod digwyddiadau bywyd pwysig fel trafod profedigaeth.

Fydd y menter i wella sgiliau Cymraeg y cydweithwyr yn eu canghennau yn defnyddio sgiliau eu siaradwyr Cymraeg rhygl, yn ogystal â defnyddio adnoddau sydd ar y we a gynhyrchwyd gan Y Senedd fel rhan o’u cynllun WG 2050. Mae’r cynllun yn rhan o strategaeth Y Senedd a’i dull hirdymor i gyrraedd targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg ac i ddatblygu’r defnydd or iaith yng Nghymru erbyn 2050. 

Dywedodd Jackie Uhi, Pennaeth rhwydwaith ein canghennau: “Mae gennym hanes balch a hir o ddarparu gwasanaethau bancio yng Nghymru, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg yn dyddio’n ôl i 1760au. Ni oedd y banc cyntaf i gynnig cerdyn credyd yn yr iath Gymraeg. 

“Rydym yn hynod o falch i gadw’r iaith yn fyw yn ein busnes yng Nghymru. Ac mae hefyd yn wych fod yr iaith yn cael ei defnyddio’n fwy cyffredin. Fel darparwr gwasanaeth, mae’r cyfle i ymgysylltu’n fwy drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyffrous, ac mae’n ffurfioli’r gefnogaeth rydyn ni’n ei rhoi i’n cwsmeriad ledled Cymru. 

“Rydym am roi’r cyfle i bob cwsmer sydd am siarad Cymraeg i wneud hynny ac rwy’n falch gweld bod dros 50 o gydweithwyr yn gweithio i wella eu sgiliau Cymraeg i wireddu hynny, gyda mwy o staff yn mynegi diddordeb.”

Ychwanegodd Jackie Uhi: “Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael ar y pryd, byddwn yn trefnu i’r cwsmer dderbyn galwad yn ôl i drafod yn Gymraeg. Mae cwsmeriaid yn aml yn dewis i ddelio gyda nifer o’i digwyddiadau bywyd pwysig yn bersonol, drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig wrth drafod pwnc sensitif ac emosiynol fel profedigaeth.” 

Dywedodd Mathew Thomas, Swyddog Hybu gyda Comisiynydd y Gymraeg: “Mae ymchwil yn dangos bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg gyda banciau, ac rydym wedi gweld bod arweinwyr busnes yn gweld yr iaith fel mantais wrth fasnachu yng Nghymru. 

“Rydym yn croesawu’r fenter hon a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i gwsmeriaid HSBC ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â’r banc.

“Mae gallu siarad Cymraeg yn sgil gydol oes gwerthfawr y bydd cydweithwyr HSBC yn ei chael yn fuddiol, nid yn unig wrth wasanaethu cwsmeriaid, ond yn gymdeithasol hefyd. Mae dysgu iaith yn cymryd amser; ac rydym yn annog pob cwsmer HSBC sy’n siarad Cymraeg i gefnogi’r staff drwy roi cyfle iddynt ymarfer yr iaith mewn canghennau.”

Mae HSBC UK hefyd yn gweithio i sicrhau bod yr arwyddion yn eu canghennau yng Nghymru yn y Gymraeg yn gyntaf a’u bod nhw’n cynnig pamffledi a llenyddiaeth yn y Gymraeg. 

Dyma rhai o’r ymholiadau nodweddiadol mae ein cydweithwyr yn ei dderbyn:

  1. Mae gen i arian sbâr. Sut alla’i agor cyfrif cadw? (I’ve got a bit of spare cash I want to invest for a rainy day. Can I set up an MyInvestment account?)
  2. Rydw i wedi cloi fy hun allan o’m bancio digidol, gallwch chi helpu? (I’ve locked myself out of my mobile banking app. Can you help me reset it please?)
  3. Rwy’n prynu tŷ am y tro cyntaf. Alla’i wneud appwyntiad i weld cynghorydd morgeisi cyn mynd ymlaen? (I’m a first time buyer and want to make an appointment with a mortgage adviser before buying my first home.)
  4. Mae gen i siec i dalu mewn. Alla’i wneud hyn trwy’r app? (I’ve got a cheque to pay in. Is there a way of doing this on the mobile banking app.)
  5. Rwyn’n teithio i wlad ar y rhestr gwyrdd, alla’i brynnu arian tramor os gwelwch yn dda? (I’m going on holiday to a country on the green list and need to buy some travel money please.)
  6. Allwch chi ddangos i fi sut i ychwanegu taliad newydd ar yr app os gwelwch yn dda? (Can you show me how to set up a new payee on my mobile banking app please?)
  7. A gaf i fenthyciad personol i brynnu car trydan? (Can I take out a personal loan to buy an electric car, and what is the interest rate?) 
  8. Rwyf wedi bod yn sal ac rydw i am rhestru POA ar fy’n nghyfrif?  (I have health issues and need to discuss how to go about applying for Power of Attorney on my account.)

Hanes HSBC UK yng Nghymru

Gellir olrhain gwreiddiau business HSBC UK yng Nghymru yn ôl i 1762, pan sefydlwyd Banc y Llong yn Aberystwyth. Honir mae hwn oedd y banc cyntaf a sefydlwyd yng Nghymru, a wnaeth wedyn ffurfio rhan o’r Banc Midland tryw Banc Gogledd a De Cymru. 

Sefydlwyd Banc Gogledd a De Cymru yn Lerpwl ym 1836 gan grŵp o fasnachwyr, gweithgynhyrchwyr a dynion busnes a oedd yn bryderus bod y siopau presennol yng Nghymru yn rhy fach a lleol i gynnal diwydiannau’r wlad, a oedd yn datblygu’n gyflym. 

Roedden nhw’n rhagweld rhwydwaith o ganghennau a byddai’n ymestyn trwy Gymru. Erbyn 1908, y flwyddyn a wnaeth gyfuno a Midland, roedd y Banc yng Nghymru wedi dod yn un o’r banciau taleithiol mwyaf yn y Deyrnas Unedig gyda dros 100 o ganghennau. 

Trwy undeb gyda’r Banc yng Nghymru, roedd Midland wedi hefyd uno a nifer o fusnesau hirsefydlog. Yr hynaf o rhain oedd Banc Y Llong; gan gynnwys Williams a’i Fab a wnaeth agor yn Nolgellau yn 1803, Banc Kington a Radnorshire a wnaeth agor yn Dref-Y-Clawdd yn 1808 a cwmni Bancio y Bala, a sefydlwyd ym 1864.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle