Diolch i roddion gan ein cymunedau lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu prynu monitor newydd i fynd wrth ymyl y gwely ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili.
Mae’r peiriant monitro gweithrediad yr ymennydd, sy’n costio dros £14,000, yn cofnodi gweithgarwch yr ymennydd, a chaiff ei ddefnyddio i helpu babanod newydd eu geni sy’n sâl.
Dywedodd Karen Jones, Uwch Nyrs Newyddenedigol: “Mae’r monitor yn helpu i ddangos i ni a yw baban yn profi gweithgarwch trydanol annormal, megis ffit.
“Mae’n helpu’r broses o wneud penderfyniadau, i asesu a all baban aros yn Ysbyty Glangwili neu a fyddai angen ei drosglwyddo i uned gofal dwys newyddenedigol i gael triniaeth fwy dwys.
“Mae’r tîm newyddenedigol wir yn gwerthfawrogi’r rhoddion caredig a hael sydd wedi galluogi i’r monitor hwn gael ei brynu ar gyfer yr uned.”
Yn ôl Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae rhoddion gan ein cymunedau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cleifion, defnyddwyr y gwasanaeth a’r staff yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
“Os hoffai unrhyw un godi arian neu gyfrannu, gallant fynd i wefan www.justgiving.com/hywelddahealthcharities neu glicio ar y botwm glas ‘Donate’ ar frig ein tudalen Facebook.”
Yn y llun gyda’r peiriant monitro gweithrediad yr ymennydd newydd, y mae’r Nyrs Staff Cerys Wathan a’r Myfyrwraig Nyrsio Ffion Jackson.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle