Mae meddygon yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn atgoffa’u cleifion eu bod yn parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i’r rhai sydd angen eu gweld.
Trwy gydol y pandemig, mae meddygfeydd wedi sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg, gan ddefnyddio ffyrdd arloesol o gyfathrebu â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Erbyn hyn mae llawer o feddygfeydd yn parhau i ddefnyddio ymgynghoriadau ffôn a galwadau fideo lle y bo’n briodol; mae hyn yn rhoi rhyddid i lawer o gleifion siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (nid o reidrwydd y meddyg teulu) yng nghysur a chyfleustra eu cartrefi eu hunain.
Mae gan y rhan fwyaf o feddygfeydd systemau ar-lein megis E-Consult neu Ask My GP, lle gall cleifion ofyn cwestiwn llai brys am eu hiechyd. Gweler gwefan eich meddygfa am fwy o wybodaeth.
Mae Fy Iechyd Ar-lein yn parhau i fod yn opsiwn ar-lein 24/7 ar gyfer archebu presgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd – mae wedi’i gynllunio i fod yn gyfleus i gleifion ac yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n hunan-ynysu neu’n gwarchod. Gall cleifion gofrestru ar gyfer hyn drwy eu meddygfa leol.
Mae system brysbennu dros y ffôn neu ar-lein ar waith yn y rhan fwyaf o feddygfeydd i sicrhau bod cleifion yn siarad ag aelod clinigol o staff am eu hiechyd.
Os oes angen gweld claf wyneb yn wyneb, bydd y feddygfa’n gwneud apwyntiad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol i’w anghenion.
Dywedodd Dr Siôn James o Feddygfa Tregaron: “Hoffem atgoffa cleifion bod meddygfeydd teulu yn parhau i fod ar gael i chi. Pan fyddwch yn cysylltu â’ch meddygfa, byddwch yn siarad â’r person mwyaf addas ar gyfer eich cyflwr ac os bydd angen i’ch gweld wyneb yn wyneb, yna rhoddir apwyntiad i chi yn y feddygfa.
Gellir trin llawer o gyflyrau dros y ffôn gyda chyngor ac os oes angen, gellir rhoi presgripsiwn i fferyllfa o’ch dewis. Peidiwch ag osgoi ymofyn triniaeth.
Ar gyfer mân anhwylderau, cofiwch y gallai eich fferyllfa gymunedol helpu.”
Ychwanegodd Fferyllydd Cymunedol, Richard Evans: “Yn draddodiadol mae fferyllwyr Cymunedol wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser yn argymell triniaethau addas i’r cleifion, neu os oes angen, eu cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Yn ystod y pandemig hwn, gweinyddu presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd, ond mae gwasanaethau eraill ar gael, megis y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, Brysbennu a Thrin, cyflenwi meddyginiaethau mewn argyfwng a dulliau atal cenhedlu brys.
Gellir cael mynediad at y gwasanaethau hyn drwy ymgynghoriad dros y ffôn, gyda’r claf neu ofalwr/aelod o’r teulu yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.
Cofiwch archebu unrhyw bresgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd mewn pryd cyn i chi ei orffen.”
Yn ychwanegol at y wybodaeth arbenigol broffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, bydd cleifion cymwys yn gallu derbyn eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim yn y mwyafrif o’n fferyllfeydd cymunedol y gaeaf hwn. Am restr lawn o fferyllfeydd sy’n cymryd rhan, cliciwch yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/brechiadau-y-ffliw-tymhorol/
I gael gwybod pa wasanaethau y mae eich fferyllfa gymunedol yn eu cynnig, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/
Mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol priodol ac mae sgriniau ar waith mewn rhai cownteri a derbynfeydd
Cofiwch wisgo gorchudd wyneb pan ydych yn ymweld ag unrhyw leoliad gofal iechyd.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle