Mae Ysbyty Bronglais yn treialu lletemau clustog llawn aer, sy’n helpu i leddfu pwysau ar sodlau cleifion pan fyddant yn gorwedd yn y gwely. Mae’r diolch am hyn i gymunedau lleol am eu rhoddion.
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda , wedi prynu 10 o’r lletemau i’w defnyddio ar draws y wardiau yn Ysbyty Bronglais, pan fo angen.
Mae’r lletem, sy’n dod â phwmp, yn eistedd o dan rhan isaf y goes ac yn codi’r sawdl i atal difrod pwysau.
Dywedodd Pennaeth Nyrsio, Dawn Jones: “Mae Ysbyty Bronglais yn treialu’r offer ar gyfer cleifion gyda’r nod o leddfu difrod pwysau ac anghysur a helpu i gefnogi ystum y corff.
“Mae’r lletemau yn gwella gofal claf trwy dynnu pwysau oddi ar y sawdl, sy’n lleihau’r angen i ddefnyddio hufenau a gorchuddion rhagnodedig, a gall arwain at leddfu poen a lleihau hyd yr arhosiad.
“Rydym yn falch bod Ysbyty Bronglais yn gallu treialu’r dull hwn ac rydym yn hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth rydym yn cael gan gymunedau lleol trwy godi arian a rhoddion.”
Yn y llun mae Nyrs Staff, Bronwen Bates o ward Dyfi gydag un o’r lletemau.
Am fwy o fanylion am ein helusen a sut y gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle