Prifysgol Abertawe’n cyhoeddi’r rhaglen ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2021

0
236
Swansea Science Festival 2017 at the National Waterfront Museum, Swansea...

Bydd Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yn cyflwyno Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe unwaith eto ym mis Hydref.

O 22 i 30 Hydref, bydd llu o ddigwyddiadau arbennig, gan gynnwys sioeau wyneb yn wyneb, gweithdai, gweithgareddau ar-lein a rhaglen newydd sbon i ysgolion, gan roi cyfle i bobl o bedwar ban byd gymryd rhan yn yr ŵyl.  

Swansea Science Festival 2017 at the National Waterfront Museum, Swansea…

 

Bydd mwy na 30 o ddigwyddiadau’n galluogi oedolion a phlant fel ei gilydd i archwilio cyffro ocsigen, gwyddor a chelf breuddwydion, rhyfeddodau’r Hen Aifft, cwpanau coffi sy’n deillio o goffi, a mwy. Bydd Brainiac yn Fyw a’r Sefydliad Brenhinol yn creu cleciau mawr a bydd arddangosiadau gwirion a syfrdanol, haciau a chwalu mythau gan Stefan Gates.

Fel cynnig newydd sbon, bydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe yn Meddiannu Ysgolion ar 22 Hydref, drwy bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe, Technocamps ac S4. Gydag amrywiaeth o weithdai rhithwir ledled y wlad, bydd cyfle i ddisgyblion o bob oedran archwilio byd syfrdanol arloesedd.

Ar gyfer ysgolion cynradd, bydd y gwestai arbennig Grace Webb, o BBC BitesizeGrace’s Amazing Machines, yn ymuno â Technocamps i feithrin chwilfrydedd disgyblion a’u brwdfrydedd dros wyddoniaeth. Ar gyfer ysgolion uwchradd, bydd rhaglen allgymorth Prifysgol Abertawe’n gwahodd ysgolion i gymryd rhan mewn gweithdy rhithwir, gydag arbrofion difyr ac addysgiadol a fydd yn ceisio ysbrydoli a swyno.

Swansea Science Festival 2017 at the National Waterfront Museum, Swansea…

Bydd yr ŵyl yn parhau ddydd Sadwrn 23 Hydref a dydd Sul 24 Hydref, gyda digwyddiadau byw yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a lleoliad arddangos newydd Oriel Science yng nghanol y ddinas.

Yn Oriel Science, bydd gwesteion yn archwilio deallusrwydd artiffisial, yn dysgu cyfrinachau mymïo, ac yn gweld yr Athro Mark Blagrove o Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe a’r artist Dr Julia Lockheart yn dod â breuddwydion yn fyw.

Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, bydd cyfleoedd i archwilio’r wyddoniaeth ryfedd y tu ôl i bethau pob dydd wrth i Stefan Gates, Gastronot y BBC, ystyried cwestiynau megis “Pam na allwch doddi Flake?” a “Beth yw beth yw pwrpas llysnafedd trwyn?”

Swansea University Science Festival at the National Waterfront Museum
Copyright © 2018 by Adrian White
Photography, all rights reserved.
For permission to publish – contact me
via www.adrianwhitephotography.co.uk
Please respect copyright laws.

Bydd y Sefydliad Brenhinol uchel ei fri yn cyflwyno arddangosiadau bywiog sy’n seiliedig ar dân a fydd yn tanio dychymyg gwesteion am ynni. Bydd Simon Webb yn cyflwyno rhai o anifeiliaid mwyaf hyll y byd, a bydd Sêr y Swigod yn swyno gwesteion.  

Meddai’r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Ers ei blwyddyn gyntaf fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Prydain yn 2016, mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe wedi bod yn ddigwyddiad allweddol i’r ddinas sy’n dod â’r gymuned ynghyd drwy frwdfrydedd cyffredin dros wyddoniaeth.

“Roedd digwyddiad rhithwir y llynedd yn llwyddiant mawr wrth i westeion ymuno â ni o bedwar ban byd, ac rydym yn falch o gynnig y cyfle hwn unwaith eto. Mae’n destun cyffro i ni hefyd gynnal rhai sesiynau wyneb yn wyneb gwych fel rhan o raglen 2021 ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb.”

 I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer digwyddiadau, ewch i Swan.ac/GWA21


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle