Gobaith ar ôl strôc: Collodd dros chwarter goroeswyr strôc eu swydd ar ôl eu strôc, gyda rhai hyd yn oed yn colli’u cartref neu’u cymar – ond mae cael ‘gobaith’ yn hanfodol i adferiad.

0
288

Dywed 26% o oroeswyr strôc yng Nghymru fod cael strôc wedi golygu eu bod wedi colli’u swydd, dywed dros un o bob deg ei fod wedi effeithio ar eu perthynas, a gwnaeth rhai hyd yn oed golli’u cartref.

Ledled y Deyrnas Unedig, dywed dros hanner goroeswyr strôc iau o dan 50 mlwydd oed nad ydynt erioed wedi gwella’n emosiynol ar ôl eu strôc.

Ond teimlai bron i un o bob pump arwyddion cyntaf o obaith ar ôl mis ers cael strôc – er nad oedd bron i chwarter wedi teimlo unrhyw obaith mewn dros flwyddyn ers iddo ddigwydd.

Mae’r Gymdeithas Strôc yn galw ar y rheiny a all roddi arian i roi gobaith i fwy o oroeswyr ar ôl strôc.

Gwaherddir cyhoedd hyn tan y 13eg o Hydref, 2021 – Mae effaith ymarferol, emosiynol a chorfforol cael strôc wedi’i ddatgelu’n hollol eglur gan arolwg newydd o fwy na 3,500 o oroeswyr strôc ledled y Deyrnas Unedig, gyda 198 o atebwyr o Gymru. Cynhaliwyd yr ymchwil, a gyhoeddir heddiw, gan y Gymdeithas Strôc o flaen Diwrnod Strôc y Byd (y 29ain o Hydref), ac mae’n rhan o alwad o’r newydd am arian hanfodol i helpu’r elusen i roi gobaith i fwy o oroeswyr ar ôl eu strôc, a’u helpu i ailadeiladu’u bywydau.

Yr effaith ar oroeswyr yng Nghymru

Mae’r ymchwil yn datgelu bod 26% o’r rheiny yng Nghymru a oroesodd strôc yn dweud ei fod wedi arwain yn uniongyrchol at y ffaith iddynt golli’u swydd, tra dywed 2% ei fod wedi arwain at golli’u cartref.

Yn ychwanegol, dywed mwy nag un o bob deg (14%) ei fod wedi cael effaith negyddol ar eu perthynas â’u cymar, gyda 6% yn dweud ei fod wedi arwain at eu perthynas yn darfod. Nid perthnasoedd â chymar yw’r unig beth yr effeithir arno – dywed un o bob pump (20%) eu bod wedi colli cyfeillion o ganlyniad i gael strôc.

Effeithir yn fwy difrifol ar oroeswyr iau

Gan ymchwilio i oroeswyr strôc ledled y Deyrnas Unedig, mae’r ymchwil yn datgelu y gall effaith emosiynol strôc effeithion fwy difrifol ar oroeswyr iau. Ymysg y rheiny o dan 50 oed, dywed chwech o bob deg (60%) nad ydynt byth wedi gwella’n emosiynol o effaith eu strôc. Mae hyn yn cymharu â 44% ar gyfer y rheiny sy’n hŷn na 50 oed.

Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod nifer cyffelyb o oroeswyr strôc iau na 50 oed (52%) a hŷn na 50 oed (50%) yn dweud nad oeddynt wedi gwella’n gorfforol ar ôl eu strôc.

Pwysigrwydd gobaith

Dengys yr ymchwil y pwysigrwydd a’r nerth gweddnewidiol o deimlo gobaith ar ôl cael strôc. Dywed mwy nag wyth o bob deg o’r rheiny yr holwyd eu barn yng Nghymru (82%) fod gan obaith ran bwysig neu hanfodol yn eu hadferiad.

Ond i lawer, nid oedd yn broses gyflym. Tra bod bron i un o bob pump (19%) yn dweud eu bod wedi dechrau teimlo gobaith ar ôl mis ers eu strôc, i chwarter (25%), fe gymerodd hi fwy na blwyddyn i brofi’r hyn roeddynt yn ei deimlo oedd yr arwydd cyntaf o obaith. Yn y cyfamser, dywed 12% nad ydynt byth wedi teimlo’n obeithiol ers iddynt gael eu strôc – sy’n dangos sut y gall strociau effeithio ar oroeswyr yn wahanol.

Mae’r Gymdeithas Strôc yn helpu pobl i ganfod y gobaith y mae arnynt ei angen i ailadeiladu’u bywydau drwy wasanaethau arbenigol, yn cynnwys Llinell Gymorth, gwasanaeth cefnogaeth gan gymheiriaid, grwpiau cymorth a Chydgysylltwyr Cymorth.

Cafodd Alan Thompson, 74, o Bont-y-clun, strôc dair blynedd yn ôl.. Collodd bob gallu i symud ar un ochr, ac effeithiwyd yn ddrwg ar ei leferydd. Nid oedd y lludded a ddaeth o ganlyniad i’w strôc yn ddim byd tebyg i unrhyw ludded arall.

Dywedodd: “Pan ddes ataf fy hun mewn Gofal Dwys, nid oeddwn yn gallu deall dim byd. Nid oeddwn yn gwybod beth oedd yn digwydd. Rwyf ond yn cofio’r meddygon yn dweud wrthyf fy mod wedi cael strôc. O glywed hyn, teimlais mai fy ngwely ysbyty oedd y twll tywyllaf a dyfnaf roeddwn erioed wedi bod ynddo. Rwyf yn awr yn gwybod yn wahanol ond y ddelwedd oedd gennyf bryd hynny oedd o fywyd o anabledd llwyr ac na allwn wneud dim byd byth wedyn.

“Dywedwyd wrthyf gan y tîm meddygol y gallwn ac y byddwn yn gwneud adferiad. Dyma oedd fy munud cyntaf o obaith ar ôl fy strôc. Gwnaethant ofyn imi beth oedd yr un peth roedd arnaf wir eisiau’i wneud eto. Y cwbl y gallwn ei ddychmygu oedd bod yn gallu dychwelyd i chwarae bowliau.

Cefais gysur a nerth mawr o’r ffisiotherapi a dderbyniais, gan iddo nid yn unig wella fy nghyflwr corfforol ond gwnaeth hefyd fy helpu’n emosiynol. Rwyf wedi mynd o fod mewn cadair olwyn i fod yn defnyddio ‘pulpud’ (Zimmer), ac yn awr y cyfan y mae arnaf ei angen yw ffon gerdded. Rwyf wedi ailafael mewn gyrru cerbyd ac rwyf yn chwarae bowliau unwaith eto. Mae yna obaith ar ôl strôc. Mae fy mywyd wedi’i ailadeiladu eto. Mae gen i fy annibyniaeth, gallaf dreulio amser o ansawdd â’m teulu, a diolch i raglen Camau Cymunedol y Gymdeithas Strôc, gallaf chwarae bowliau, fy angerdd, unwaith eto.”

Munudau mawr a bach o obaith

Canfu’r ymchwil ei bod yn bosibl mai munudau mawr a bach, fel ei gilydd, o obaith sy’n bwysig. Pan ofynnwyd iddynt beth a roddodd eu munud cyntaf o obaith iddynt ar ôl strôc, dywedodd 15% mai hynny oedd bod yn gallu defnyddio’u hochr yr effeithiwyd arni am y tro cyntaf, a dywedodd 9% mai hynny oedd bod yn gallu siarad eto. Fodd bynnag, dywedodd 15% mai hynny oedd bod yn gallu cwblhau gorchwyl bach beunyddiol megis gwneud paned o de.

Ailgloriannu’r hyn sy’n bwysig ar ôl strôc

Mae effaith strôc yn arwain llawer o bobl i ailgloriannu’r hyn sy’n bwysig mewn bywyd. Dywed mwy na hanner (52%) fod cael strôc wedi gwneud iddynt werthfawrogi’u bywyd yn fwy, dywed 46% ei fod wedi gwneud iddynt werthfawrogi’u teulu’n fwy, a dywed 46% ei fod wedi gwneud iddynt werthfawrogi’r pwysigrwydd o ofalu am eu hiechyd.

Dywedodd Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru yn y Gymdeithas Strôc: Bob pum munud, bydd rhywun yn y Deyrnas Unedig yn cael strôc, ac ar amrantiad, mae’u bywyd wedi’i newid. Mae yna fwy na 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, ac mae dwy ran o dair o bobl sy’n goroesi strôc yn eu cael eu hunain yn byw ag anabledd. Mae effaith gorfforol strôc yn ddifrifol, ond i lawer o bobl, mae’r agweddau emosiynol o ddod i delerau â chael strôc yr un mor sylweddol. Fel mae’r ymchwil yn ei wneud yn eglur, mae canfod gobaith yn rhan hanfodol o’r broses o wella.

Hebddo, gall gwella ymddangos yn amhosibl.

Yn y Gymdeithas Strôc, rydym yn cynorthwyo ac yn helpu pobl i ganfod y gobaith hwn, ac i adeiladu’u bywydau. Ond gydag 1.3 miliwn o bobl – ac mae’n cynyddu – yn y Deyrnas Unedig yn byw ag effeithiau strôc, nid yw’n gwasanaethau erioed wedi bod o dan gymaint o bwysau. Mae arnom angen cymorth y cyhoedd ar fyrder i’n helpu i barhau i gynorthwyo goroeswyr strôc i ailadeiladu’u bywydau.”

Mae’r Gymdeithas Strôc yn gofyn i’r rheiny a all roddi arian roddi heddiw fel y gall hi gyrraedd mwy o oroeswyr strôc a rhoi’r cymorth arbenigol iddynt y mae arnynt ei angen i ganfod gobaith ac i wneud cynnydd â’u hadferiad. Ewch i stroke.org.uk/hopeafterstroke

 

 

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle