Coast to Coast yn cipio’r wobr aur mewn seremoni wobrwyo genedlaethol

0
279
Capsiwn: Coast to Coast, papur newydd blynyddol rhad ac am ddim i ymwelwyr gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ennill y wobr aur yng nghategori'r Cyhoeddiad Gorau yng Ngwobrau PRide CIPR Cymru Wales 2021.

Roedd Coast to Coast, papur newydd i ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn un o enillwyr aur Gwobrau PRide CIPR Cymru Wales yn ddiweddar.

Enillodd y papur newydd blynyddol, sy’n rhad ac am ddim i ymwelwyr, y wobr ar gyfer Cyhoeddiad Gorau mewn seremoni ar-lein a gynhaliwyd gan y darlledwr Jason Mohammad. Nid yw’r cyhoeddiad wedi ennill y wobr ers 2014.

Dywedodd Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Awdurdod  Parc Cenedlaethol, Marie Edwards: “Rydyn ni wrth ein boddau bod Coast to Coast wedi cael ei gydnabod unwaith eto ochr yn ochr â chymaint o ymgeiswyr gwych eraill ac enillwyr o’r sectorau preifat a chyhoeddus.

“Mae cannoedd o filoedd o gopïau yn cael eu darllen ledled Sir Benfro a thu hwnt bob blwyddyn, gan helpu pobl i ddysgu mwy am y Parc Cenedlaethol a mwynhau eu hymweliad.

“Hoffem ddiolch i’r holl ddarllenwyr, y mannau gwerthu a’r hysbysebwyr am eu cefnogaeth barhaus wrth i ni baratoi i gyhoeddi’r 40fed rhifyn yn 2022.”

Wrth asesu ymgais Coast to Coast yn y gystadleuaeth teimlai’r beirniaid fod “briff clir iawn ar gyfer Coast to Coast, gyda thargedau wedi’u hystyried yn ofalus. Roedd yr ymgais yn dangos ei fod yn cyd-fynd yn dda â nodau’r sefydliad yn ogystal â rhoi cyfle i’r staff gyfrannu.

“Yn y pen draw, roedd Coast to Coast wedi gwneud argraff ragorol ar y beirniaid, ac roedd adborth y cwsmeriaid yn wych.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Dylai’r tîm fod yn falch iawn eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer yn y gwobrau arbennig hyn, sy’n dilyn blynyddoedd hynod lwyddiannus, a hynny er gwaetha’r heriau a gyflwynwyd gan y pandemig. Mae hyn yn pwysleisio ansawdd uchel y swyddogion sydd gennym yn gweithio i’r Awdurdod.

“Mae’r tîm yn gweithio’n ddiflino i hyrwyddo’r Parc Cenedlaethol a’r Awdurdod mewn cynifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys y cylchgrawn poblogaidd Coast to Coast, sy’n parhau i fynd o nerth i nerth.”

I ddarllen rhifyn eleni ar-lein neu i gael rhagor o wybodaeth am hysbysebu yn fersiwn 2022 Coast to Coast ewch i  www.arfordirpenfro.cymru/cynllunio-eich-ymweliad/coast-to-coast/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle