Oherwydd cynnydd mewn achosion Covid-19 yn yr ysbyty a’r gymuned, gwnaed y penderfyniad i gau Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd i ymwelwyr ar unwaith.
Dim ond mewn amgylchiadau arbennig y caniateir ymweld, megis diwedd oes ac ymweliadau critigol. Rhaid i bob ymwelydd gynnal prawf dyfais llif ochrol (LFD) gartref cyn teithio i’r ysbyty.
Gellir cael citiau hunan-brawf llif ochrol trwy:
- archebu ar-lein i’w ddosbarthu gartref (agor mewn dolen newydd)
- casglu’n lleol o’r mwyafrif o fferyllfeydd cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Edrychwch am y fferyllfeydd sy’n cymryd rhan yn agos atoch chi (agor mewn dolen newydd).
Wrth ymweld â’n hysbytai cofiwch wisgo gorchudd wyneb, bydd hwn yn cael ei amnewid am orchudd wyneb llawfeddygol yn y dderbynfa neu’r ward.
Cofiwch gynnal pellter cymdeithasol ac i olchi’ch dwylo mor aml â phosib gan ddefnyddio sebon a dŵr a glanweithydd dwylo.
Mae’r sefyllfa’n cael ei monitro’n rheolaidd a bydd diweddariad pellach yn cael ei wneud pan godir cyfyngiadau ymwelwyr.
Rydym yn diolch i bawb am eich dealltwriaeth ar yr adeg hon wrth i ni weithio i atal y feirws hwn rhag lledaenu.
Rydym yn diolch i bawb am eich dealltwriaeth ar yr adeg hon wrth i ni weithio i atal y feirws hwn rhag lledaenu.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle