Guto a’r goron: bardd ar dramp i ganfod mwy am hanes coron yr Eisteddfod Genedlaethol

0
929
From fleece to carpet – a woolly journey

S4C21.07.2015

Mathew Rees

Cyswllt

Ffôn 029 2074 121

Erthygl i’r Wasg

 

Guto a’r goron: bardd ar dramp i ganfod mwy am hanes coron yr Eisteddfod Genedlaethol

Fyth ers i Hedd Wyn ennill ar yr awdl ym Mhenbedw yn 1917, tyfodd y gadair yn symbol eiconig i’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yng ngolwg llawer, hon yw’r brif wobr a gysylltir â’r brifwyl. Mewn ymgais i gydbwyso’r glorian ac unioni’r sefyllfa, mae Guto Dafydd, enillydd coron 2014, yn mynd ati i ddadlau ei hachos trwy olrhain hanes y gystadleuaeth.

 

Bydd Pethe: Stori Coronau y ‘Steddfod ar S4C nos Lun, 3 Awst, a hynny ar ddiwrnod y coroni.

 

Er bod blwyddyn gron wedi mynd heibio ers i’r bardd ifanc o Bwllheli ennill ei goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gaerfyrddin yn Llanelli, mae hanes y gystadleuaeth ei hun yn ymestyn yn ôl i’r 1860au. Bydd Guto yn datgelu mai’r hyn roddodd fod i’r goron yn y lle cynta’ oedd cyfres o ddadleuon chwyrn, a chyhoeddus, ymysg rhai o feirdd enwocaf y cyfnod.

 

Dadl y ‘radicaliaid’, beirdd y canu rhydd, oedd bod angen gwobr amgen ar gyfer cerddi rhydd. Ond roedd y ‘ceidwadwyr’, beirdd y canu caeth yn anghytuno. Bydd Guto yn gwisgo ei goron ac yn mynd ar daith o gwmpas Cymru i holi haneswyr, beirdd a chrefftwyr am hanes y gystadleuaeth, gan gynnwys y Prifardd Mererid Hopwood, ac enillydd dadleuol coron Eisteddfod Caerdydd 1978, Siôn Eirian, oedd hyn yn oed yn iau na Guto yn ennill y wobr. Eleni, cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod am yr eildro, a John Price o Fachynlleth yw’r dyn a ddewiswyd i greu coron y brifwyl, a bydd Guto hefyd yn ymweld â’i weithdy yn ystod y broses gynllunio. “Pan enillais i, sylweddolais i go iawn faint mae’n ei olygu i bobl ac roedd yr ymateb yn fy ardal i a thu hwnt yn wefreiddiol,” meddai Guto, sy’n 25 oed a newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf i oedolion, Stad.

 

“Dwi wastad wedi mwynhau seremonïau’r Orsedd ac roedd o’n braf cael bod yn rhan o’r seremoni, ond roedd y rhaglen hon yn gyfle i fynd o dan yr wyneb a ffeindio allan mwy am y wobr hynod hon. “Yn anffodus mae ‘na ryw fath o deimlad bod y goron yn wobr eilradd i’r gadair, ond dydw i ddim yn deall pam oherwydd mae’r safon yn aml iawn yn well na’r gadair. Mae dal yna ryw argraff bod cerddi caeth yn fwy o gampwaith na cherddi rhydd ond dwi’n credu bod hynny’n hollol anghywir, ac yn mynd yn ôl i’r cyfnod lle dechreuon nhw gynnig cystadleuaeth y goron yn y lle cyntaf. Roedd rhaid iddyn nhw fynnu a brwydro am y goron er mwyn gwneud y ddwy wobr yn gyfartal.”
Pethe: Stori Coronau y ‘Steddfod Nos Lun, 3 Awst, 9.30, S4C

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle