Gofynnir i bobl 12 oed a hŷn sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro â systemau imiwnedd sydd wedi’u gwanhau’n ddifrifol ar adeg eu brechlynnau COVID-19 cyntaf a / neu ail gysylltu â’r bwrdd iechyd i ofyn am drydydd dos o frechlyn Coronafeirws.
Yn dilyn cyngor wedi’i ddiweddaru gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) ym mis Medi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) wedi gweithio gyda clinigwyr i nodi unigolion cymwys i’w gwahodd am eu trydydd dos ar gyfnodau priodol yn eu cylch triniaeth.
Mae’r bwrdd iechyd bellach yn gofyn i unrhyw un a oedd yn imiwnoataliedig ar adeg eu brechlyn COVID-19 cyntaf neu ail ac na chysylltwyd â hwy eto ynglŷn â’u trydydd dos sylfaenol i gysylltu.
Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Os gwanhawyd eich system imiwnedd yn ddifrifol oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol neu driniaeth feddygol, efallai na fyddech wedi ymateb yn dda i ddau ddos cyntaf brechiad COVID-19.
“Bydd trydydd dos sylfaenol o’r brechlyn yn gwella eich lefelau imiwnedd i roi gwell amddiffyniad i chi a dylid ei roi o leiaf wyth wythnos ar ôl yr ail ddos, ond bydd amseru yn dibynnu ar unrhyw driniaeth y gallech fod yn ei chael. Efallai y bydd angen brechiad atgyfnerthu hefyd yn nes ymlaen.
“Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro ac yn credu eich bod yn gymwys i gael trydydd dos brechlyn sylfaenol ond nad ydym wedi cysylltu â chi eto, rydym yn gofyn ichi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”
Sylwch, nid yw trydydd dos sylfaenol o’r brechlyn COVID-19 yr un peth â brechlyn atgyfnerthu. Bydd y bwrdd iechyd yn gwahodd y rhai sy’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu i fynd i ganolfan brechu torfol cyn gynted â phosibl. Diolch am eich amynedd a pheidiwch â chysylltu â’r bwrdd iechyd ar hyn o bryd ynglŷn â brechlyn atgyfnerthu.
I ofyn am drydydd brechlyn COVID-19 sylfaenol, cwblhewch un o’r ffurflenni cais canlynol sy’n berthnasol i chi:
- ffurflen gais ar gyfer unrhyw un sy’n 12 oed neu’n hŷn sydd â system imiwnedd sydd wedi’i gwanhau’n ddifrifol oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol neu driniaeth feddygol heblaw steroidau https://forms.office.com/r/t9pesy3dWi
- ffurflen gais ar gyfer unigolion gwrthimiwnedd ar feddyginiaeth steroid dos uchel https://forms.office.com/r/re8jg8nhT5
Os na allwch chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, gyrchu’r ffurflenni cais ar-lein, cysylltwch â ni dros y ffôn trwy ffonio 0300 303 8322 neu drwy e-bost COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk i ofyn am eich trydydd dos brechlyn COVID-19 sylfaenol.
Mae mwy o wybodaeth am y trydydd cynnig brechlyn COVID-19 sylfaenol ar gael yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/trydydd-brechlyn-covid-19-cynradd/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle