Pob lwc i Jodine Fec, sy’n rhedeg marathon i godi arian ar gyfer Gwasanaethau Lles Dementia ar draws Hywel Dda.
Mae Jodine, sy’n byw yn Aberhonddu, yn gweithio fel Uwch Fferyllydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn bwriadu rhedeg Marathon Casnewydd ar 24 Hydref ar ôl gorfod oedi ddwywaith oherwydd COVID-19.
“Rwy’n gweithio i’r Tîm Cymuned Lles Dementia yn Hywel Dda, fel rhan o’r strategaeth dementia ehangach,” meddai, “ac yn gobeithio y bydd fy ymdrechion yn codi swm da i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.
“Dyma fy ymgais marathon cyntaf, wedi’i ohirio gan COVID ddwywaith! Rwy’n dweud ymgais gan nad wyf yn gwybod a fyddaf yn gorffen ar y diwrnod. Fel yr wyf wedi darganfod ers hynny, os ydych chi’n rhy araf, rydych chi’n cael eich ‘mopio i fyny’ gan fws (ac rwy’n araf!) Fodd bynnag, os bydd y bws yn fy nghael i, rwy’n addo cwblhau’r milltiroedd sy’n weddill ar fy melin draed neu lwybr y gamlas leol.” Os hoffech gyfrannu at her Jodine, ewch i http://www.justgiving.com/Jodine-Fec.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fod pawb yn dymuno’r gorau i Jodine yn ei her marathon.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai Nicola.
I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff y GIG lleol, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle