Arbenigwr iechyd plant yn cyrraedd y rhestr fer am anrhydedd ymchwil o fri

0
254
Emily Marchant

Mae academydd o Brifysgol Abertawe yn ceisio am wobr genedlaethol am ei gwaith arloesol ym maes iechyd plant ac addysg yn ystod ei PhD.

Mae Dr Emily Marchant wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dathlu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol eleni sy’n cydnabod llwyddiant ymchwilwyr a ariennir gan yr ESRC wrth gyflawni a galluogi effaith economaidd neu gymdeithasol sy’n deillio o ymchwil rhagorol.

A hithau’n ymchwilydd ac yn Gymrawd Ôl-ddoethurol yr ESRC ar gyfer HAPPEN Cymru (Iechyd a Chyflawniad Disgyblion mewn Rhwydwaith Addysg Gynradd), prosiect sy’n ceisio gwella iechyd, lles ac addysg plant, gan alluogi ysgolion i nodi meysydd penodol o angen ar gyfer eu disgyblion a chynllunio ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru, a fydd ar waith o 2022.

Drwy ei waith ymchwil, mae tîm HAPPEN yn gobeithio cael dealltwriaeth well o iechyd corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol disgyblion drwy ddatblygu rhwydwaith ymchwil iechyd/cyflawniad o ysgolion cynradd cenedlaethol. Yn ystod PhD Emily, gwnaeth ehangu’r rhwydwaith ddeng gwaith ar draws Cymru yn ogystal ag ymgymryd â’i gwaith ymchwil mewn iechyd ac addysg plant.

Meddai Dr Marchant: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr nodedig hon a chael fy ngwaith doethurol wedi’i gydnabod gan yr ESRC. Ni allai ymchwil i iechyd ac addysg plant fod yn fwy pwysig wrth i ni droi cornel gyda phandemig Covid-19, gan weld effeithiau eang cau ysgolion a tharfu ar fywydau plant. Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar fy ymchwil doethurol a pharhau i gynnal gwaith ymchwil sy’n effeithio ar genedlaethau’r presennol a’r dyfodol”

Mae HAPPEN yn rhan o Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Meddai’r Athro Alison Park o’r ESRC: “Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i gydnabod gwyddonwyr cymdeithasol ac economegwyr o’r radd flaenaf ac amlygu sut mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth i bobl a sefydliadau yn y DU ac mewn gwledydd eraill.

“Mae’r cyfraniad pwysig a wneir gan y gwyddorau cymdeithasol i helpu cymunedau a busnesau i lywio’r pandemig yn elfen amlwg ymysg y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ond mae eraill yn amlygu pethau fel addysg, cynaliadwyedd ac iechyd.”

Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ddydd Iau, 18 Tachwedd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle