Estyn clinigau cerdded- i-mewn brechlyn COVID-19 i bobl ifanc dan 16 yn ystod wythnos hanner tymor

0
354

Yn ystod wythnos hanner tymor (dydd Sadwrn 23 i ddydd Sul 31 Hydref) gall pobl ifanc rhwng 12 a 15 oed gael mynediad at eu brechlyn COVID-19 mewn canolfan frechu dorfol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro (ac eithrio Maes y Sioe yng Nghaerfyrddin) heb apwyntiad.

Sylwch, ni fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn gallu brechu unrhyw un o dan 16 oed os byddant yn dod i’r ganolfan frechu ar ben eu hunain. Bydd angen i riant neu warcheidwad fynd gyda nhw i gydsynio iddynt gael y brechlyn Pfizer.

Oriau agor: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/canolfannau-brechu-torfol/

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r brechlyn COVID-19 yn cael ei gynnig i bob plentyn 12-15 oed yng Nghymru, er mwyn helpu i amddiffyn eu hiechyd a’u llesiant.

“Mae’r penderfyniad i gael eich brechlyn COVID-19 yn ddewis i bob unigolyn ei wneud. Os oes gennych gwestiynau am y brechlyn, cymerwch amser i chwilio am wybodaeth gywir a dibynadwy – mae’r GIG bob amser yn fan cychwyn da – a sgwrsio am eich barn, gyda’ch rhiant neu warcheidwad.

“Mae yna lawer o wybodaeth ar gael am y brechlyn COVID-19, felly byddwch yn ofalus i ddefnyddio dim ond gwybodaeth gywir y gellir ymddiried ynddi i’ch helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.”

Dyma rai lleoedd dibynadwy i ddarganfod mwy am pam eich bod yn cael cynnig y brechlyn ac unrhyw sgîl-effeithiau y gallech eu profi:

Os ydych chi’n sâl â thwymyn, neu os ydych chi wedi cael prawf coronafeirws positif yn ystod y 28 diwrnod diwethaf, dylech ohirio’ch apwyntiad a chysylltu â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 i drefnu apwyntiad yn ddiweddarach.

Hefyd, peidiwch â mynychu os oes gennych chi neu aelod o’ch cartref beswch parhaus newydd, colli blas neu arogl, tymheredd, yn aros am ganlyniad prawf COVID 19, neu’n hunan ynysu. Os oes gennych y symptomau hynny, arhoswch gartref a dilynwch y cyngor ar https://llyw.cymru/coronafeirws

O 1 Tachwedd ymlaen, bydd angen apwyntiad ar unrhyw un o dan 16 oed i dderbyn eu brechiad COVID-19. Gellir trefnu hyn yn hawdd ar gyfer cysylltu â’r bwrdd iechyd trwy e-bostio COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 0300 303 8322.

P’un a ydych wedi eich brechu neu beidio, daliwch ati i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, aros adref a chael eich profi os oes gennych symptomau coronafeirws, a daliwch ati i olchi’ch dwylo’n rheolaidd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle