Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi ymgyrch Wythnos Diogelwch Rhag Tân Myfyrwyr Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC). |
Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei chynnal rhwng 25-31 Hydref, yn meithrin ymwybyddiaeth myfyrwyr o beryglon tân wrth iddynt ddechrau ar eu taith i fywyd prifysgol.
Dywedodd Sion Slaymaker, Pennaeth Diogelwch Tân Busnesau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, “I lawer o oedolion ifanc, dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fyddant yn dechrau pennod newydd yn eu bywydau trwy symud i ffwrdd oddi wrth rwydweithiau cymorth, a gofalu amdanynt eu hunain mewn amgylchedd gwahanol. Gall yr amgylchedd newydd a chyffrous hwn olygu risgiau anghyfarwydd, ac mae ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Rhag Tân yn faes hollbwysig. O ganlyniad, mae’r Timau Diogelwch Tân Busnesau a Diogelwch Cymunedol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog myfyrwyr i fod yn ddiogel rhag tân yn eu llety ac i ystyried y risgiau a allai fod yn bresennol”. Dywedodd Neil Evans, y Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol, “Mae mwyafrif y tanau yr ydym yn cael ein galw iddynt yn dechrau yn y gegin, fel arfer oherwydd bod bwyd sy’n coginio wedi cael ei adael heb neb yn cadw golwg arno. Os oes yna un peth rwy’n annog myfyrwyr i’w ystyried, yna hwnnw yw peidio â choginio os ydynt wedi bod yn yfed. Os byddwch yn syrthio i gysgu, a’ch bwyd yn mynd ar dân, byddwch yn deffro gyda mwy na phen tost … os byddwch yn deffro o gwbl. Byddwn hefyd yn argymell yn gryf eich bod yn dangos rhywfaint o ofal tuag at eich larwm mwg ac yn ei brofi’n rheolaidd – gallai arbed eich bywyd”. Mae’r Gwasanaeth wedi darparu rhagor o gamau syml y gellir eu cymryd i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cadw’n ddiogel.
Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelwch rhag tân myfyrwyr ar gael ar Wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Cadwch lygad ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol, a hoffwch, dilynwch a rhannwch ein cynnwys i helpu i gefnogi’r ymgyrch hanfodol hon. |
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle