Annwyl Olygydd,
Amddiffyn plant rhag pob math o gamdriniaeth yw cenhadaeth yr NSPCC ac mae ei Wasanaeth Ysgolion yn rhan annatod o’r gwaith hwnnw. Mae’n gyfrifol am gyflwyno rhaglen Cofia ddweud. Cadwa’n ddiogel. yr elusen, sydd yn rhoi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth i blant ledled Cymru o’r wahanol fathau o gam-drin a sut i adnabod yr arwyddion o gam-drin. Mae’r rhaglen ddwyieithog yn helpu plant i ddeall nid y plentyn sydd ar fai am gamdriniaeth ar unrhyw adeg, bod ganddyn nhw’r hawl i fod yn ddiogel, ac o ble i gael help – gan gynnwys o’n gwasanaeth Childline. Rydym yn chwilio am bedwar aelod newydd o’r tîm i helpu i gyflawni ein gwaith atal mewn ysgolion yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin; Powys a Cheredigion; Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Abertawe, Castell-nedd Port-Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr; a Chasnewydd, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Torfaen a Merthyr Tudful. Am fwy o wybodaeth am y rolau Cydlynydd Ysgol, gallwch ymweld â’n gwefan neu gysylltu â mi trwy Rhian.Jones@nspcc.org.uk.
Gall ysgolion cynradd gofrestru ar gyfer ein gwasanaethau rhithwr Cofia ddweud. Cadwa’n ddiogel. yn cynnwys Ant & Dec, am ddim: learning.nspcc.org.uk/services/speak-out-stay-safe.
Rhian Jones
Rheolwr Gwasanaeth Ysgolion
NSPCC Cymru/Wales
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle