Gall trigolion a busnesau sydd wedi prynu nwyddau ffug, neuân gwybod am rywun sydd wedi prynu nwyddau ffug, roi gwybod yn ddienw i Crimestoppers.
Mae Safonau Masnach Cymru aâr elusen Crimestoppers wedi dod at ei gilydd i gynnig gwasanaeth syân galluogiâr cyhoedd i roi gwybodaeth werthfawr yn ddienw er mwyn cadw cymunedauân ddiogel ac iach.
Dymaâr broblem ddiweddaraf y maeâr ddau sefydliad yn gweithio arno er mwyn annog y cyhoedd i roi gwybodaeth ar bryderon sydd ganddynt, a hynnyân hollol ddienw.
Dywedodd Helen Picton, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru: âRydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda Crimestoppers ac yn rhoi cyfle i aelodauâr cyhoedd roi gwybod am y troseddau hyn yn ddienw.
âYn aml iawn mae nwyddau ffug o ansawdd gwael a gallant hefyd fod yn anniogel ac yn berygl i chi neuâr teulu. Anaml iawn y bydd gwerthwyr nwyddau ffug yn rhoi eich arian chi nĂ´l os bydd pethauân mynd oâi le.
âMae troseddau nwyddau ffug hefyd yn dinistrio swyddi a busnesau ac yn ariannu troseddau cyfundrefnol.â
Dyma rai pethau iâw sylwi arnynt o ran nwyddau ffug:
- prisiau rhad iawn
- o ansawdd a safon gwael
- gwallau sillafu ar labeli a phecynnau
- printio o ansawdd gwael
- delweddau aneglir
- gwerthu cynnyrch mewn mannau anarferol e.e. marchnadoedd, arwerthiannau cist car, tafarnau, clybiau.
âOs ydych chiân credu eich bod wedi prynu nwyddau ffug neuân gwybod am rywun sydd wedi, yna rhowch wybod i Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ewch i http://crimestoppers-uk.org gan ddweud beth rydych yn ei wybod. Mae eich gwybodaeth yn gallu helpu i gadw cymunedau Cymruân ddiogel,â ychwanegodd Helen Picton.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle