Llythyr – Llythyr oddi wrth Siôn Corn

0
729

Annwyl Olygydd,

Mae’r Nadolig yn nesáu, ac i lawer o blant a phobl ifanc yng Nghymru, gall fod yn amser anodd o’r flwyddyn. Gall eich darllenwyr ein helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau plant wrth ddod â rhywfaint o lawenydd Nadoligaidd i’w teuluoedd eu hunain.

Mae’r dyn ei hun, Siôn Corn, wedi agor ei weithdy ac yn gweithio gyda’r NSPCC i anfon llythyrau wedi’u personoli’r holl ffordd o Begwn y Gogledd i Gymru. Gall darllenwyr roi rhodd trwy greu Llythyr oddi wrth Siôn Corn, sydd yn cael ei argraffu a’i bostio’n syth i’r plentyn mewn amlen Nadoligaidd. Gallant ddewis o wyth dyluniad gwahanol, gan gynnwys “Nadolig Cyntaf Babi” a “Helpwyr Bychain Siôn Corn” ac ychwanegu gwybodaeth bersonol fel enw, oedran a diddordebau. Mae’r llythyrau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Y cyfan a ofynnwn yw rodd a awgrymir o £5, a allai helpu Childline i fod yno i blant dros yr ŵyl a thu hwnt. Bydd ein gwirfoddolwyr Childline ym Mhrestatyn a Chaerdydd ymhlith y rhai sy’n gwirfoddoli eu hamser i wrando ar blant a phobl ifanc dros gyfnod y Nadolig. Gallai £8 ateb dwy alwad i Childline, unrhyw adeg o’r dydd a’r nos, hyd yn oed ar ddydd Nadolig. Gallai £12 ateb galwadau gan dri phlentyn a gallai £25 dalu tuag at hyfforddi cwnselwyr gwirfoddol Childline i fod yno i blant pan fydd ein hangen arnynt.

I greu llythyr personol i’ch teulu oddi wrth Siôn Corn, ewch i wefan NSPCC.

Emma Brennan

Rheolwr Gweithgareddau Codi Arian Cefnogwyr

NSPCC Cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle