Wrth i arweinwyr y byd ymgynnull yn uwchgynhadledd COP26 i drafod gweithredu brys ar newid yn yr hinsawdd, gwnaeth aelodau Pwyllgor Ieuenctid Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddatganiad pwerus eu hunain drwy ryddhau fideo sy’n crynhoi eu safbwyntiau ar yr argyfwng hinsawdd a’r ffyrdd ymlaen.
Maen nhw’n gobeithio y bydd hwn yn gam cyntaf pwysig tuag at godi ymwybyddiaeth ymysg eu cenhedlaeth eu hunain, a’u bwriad nawr yw chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu â phobl ifanc eraill.
Sefydlwyd y Pwyllgor Ieuenctid yn ystod y gwanwyn 2020 a’i nod yw creu newid cadarnhaol, naill ai drwy weithio gyda chynghorau lleol neu ymgymryd â phrosiectau i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion byd-eang.
Mae’r Pwyllgor Ieuenctid yn cynnwys pobl ifanc frwdfrydig o’r un anian rhwng 14 a 25 oed, ac roedd yr aelodau’n rhan o Ymgyrch Outright UNICEF 2020 i helpu i daflu goleuni ar effaith newid yn yr hinsawdd ar hawliau plant – safbwynt y maen nhw’n teimlo nad yw arweinwyr y byd yn ei ystyried yn aml.
Dyma’r ysbrydoliaeth ar gyfer eu ffilm fer, sydd bellach ar gael i’w gwylio, ochr yn ochr â’u datganiad llawn, ar sianel YouTube Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dywedodd Aelod o’r Pwyllgor Ieuenctid, “Mae gan bob plentyn hawl i fyw’n ddiogel mewn amgylchedd teuluol, gyda mynediad at ddŵr glân ac addysg briodol. Mae newid yn yr hinsawdd yn bygwth yr hawliau hyn i blant ar draws y byd. Wrth i’r byd gynhesu ac wrth i ardaloedd fynd yn anoddach byw ynddynt, bydd llawer o blant yn dod yn ffoaduriaid hinsawdd ac o bosibl yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd. Yn ogystal â hyn, bydd newid yn yr hinsawdd yn arwain at gynnydd mewn tlodi plant ac o ganlyniad bydd llawer o blant yn cael eu gorfodi i fyw bywyd na ddylai unrhyw blentyn orfod byw. Hyd yn oed nawr, mae UNICEF yn amcangyfrif bod ffactorau amgylcheddol yn cymryd bywydau 1.7 miliwn o blant dan 5 oed bob blwyddyn.
“Does gan lawer o blant a phobl ifanc yn y DU ddim syniad clir o’r effaith mae newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar ein cenhedlaeth ni – rydyn ni’n awyddus i gydweithio â sefydliadau lleol er mwyn helpu i ysgogi brwdfrydedd amgylcheddol ymysg y cenedlaethau iau, gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc i weithio tuag at fyw dyfodol mwy cynaliadwy. Credwn ei bod yn hanfodol sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn dysgu sut mae pob gweithred yn arwain at ganlyniadau ehangach.
Mae Aelodau’r Pwyllgor Ieuenctid yn benderfynol o adeiladu ar eu momentwm ac yn gobeithio rhannu’r wers bwysig hon gyda phobl ifanc eraill yn Sir Benfro; maen nhw’n bwriadu cysylltu ag ysgolion a grwpiau ieuenctid dros yr wythnosau nesaf er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ffilm a chynnig awgrymiadau ynghylch sut y gellid ei defnyddio mewn ysgolion.
Dylai unrhyw ysgol neu grŵp ieuenctid sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Tom Moses yn tommm@pembrokeshirecoast.org.uk.
Gallwch wylio’r fideo a gafodd ei greu gan Bwyllgor Ieuenctid Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn:
www.youtube.com/watch?v=w5N0_PhADNs&t=26s
I gael mwy o wybodaeth am y Pwyllgor Ieuenctid a’r Parcmyn Ifanc, gan gynnwys sut i ymuno, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/cenhedlaeth-nesaf/.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle