Crynodeb Pobol y Cwm W29

0
663
From fleece to carpet – a woolly journey

S4C05.07.2015

Owain Pennar

Cyswllt

Ffôn 02920 741416

Crynodeb Pobol y Cwm W29

 

Mae Gabriela yn dychwelyd i’r pentref gyda newyddion trist.

Wrth i Colin ymarfer ei aromatherapi ar Britt, mae Iolo yn dod i’r canlyniad bod y ddau yn cael affêr ac yn dweud wrth Siôn. Mae’r ddau’n ceisio darbwyllo Siôn mai ymarfer mae Colin, ond a yw Siôn yn eu credu?

Mae Debbie yn cyfaddef wrth Mark mai dweud celwydd oedd hi am y lladrad, pan mae Mark yn cydymdeimlo â hi mae’r ddau yn agosáu ac yn canfod cysur ym mreichiau ei gilydd.

Dywed Kelly wrth Gethin ei bod wedi gweld Ffion yn y Deri gyda photel o win. Mae Ffion yn sylweddoli faint mae Gethin yn ymddiried ynddi hi ar ôl iddo beidio dod i’r Deri i weld os oedd Kelly yn dweud y gwir.

Gyda Siôn yn wynebu dyled enfawr a’r cyhuddiad ei fod wedi ymyrryd gyda’r offer yng ngarej Garry, mae’n ymddangos ei fod yn ei chael hi’n anodd ymdopi ac yn ystyried dull eithafol o setlo pethau.

Pobol y Cwm

Llun, Mawrth, Iau, Gwener 8.00, S4C

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg

Llun, Mawrth, Mercher, Gwener 6.00, S4C gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin

s4c.cymru/pobolycwm


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle