Myfyrwyr y Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe’n trafod materion byd-eang allweddol yn ystod Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton

0
406

Rhoddwyd cyfle arbennig i fyfyrwyr o Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe gael profiad o ystafell newyddion byw.

Cymerodd fwy nag ugain o fyfyrwyr ran yn yr Hwb Cyfryngau Byw, sef menter a gyflwynwyd fel rhan o Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton nodedig y Brifysgol.

Dros dri diwrnod, gwnaeth y tîm ysgrifennu straeon ac erthyglau newyddion byw, gweithredu strategaethau cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus, cynnal cyfweliadau â gwesteion adnabyddus, gan gynnwys Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle, a chreu amrywiaeth eang o gynnwys digidol.

Er bod staff wrth law i gynnig arweiniad a gweithio fel Golygyddion ar Ddyletswydd, roedd y myfyrwyr yn gyfrifol am ymchwilio, cynhyrchu a chyhoeddi copïau mewn amser go iawn ac i safon broffesiynol.

Gwnaeth y profiad alluogi’r myfyrwyr i gyflwyno eu barn ar faterion byd-eang allweddol mewn ffordd greadigol yn ogystal â dysgu sgiliau newydd, rhwydweithio a gwneud ffrindiau newydd.

Meddai Michael Coiner, myfyriwr MA Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus o’r Unol Daleithiau, “Mae’r Hwb Cyfryngau Byw wir wedi bod yn ddigwyddiad unigryw a gwobrwyol. Mae wedi rhoi’r cyfle i ni ymdrochi ym mhrofiad gweithio mewn awyrgylch prysur ystafell newyddion a defnyddio ein sgiliau mewn ffordd ystyrlon.

“Rwyf wir wedi mwynhau cydweithredu â’m cyd-fyfyrwyr a’m darlithwyr ynghyd â dysgu ganddynt. Mae’n gyfle gwych i ennill profiad o’r byd go iawn mewn ffordd ddifyr!”

I alluogi myfyrwyr i fyfyrio ar eu gwaith a’i rannu â’r cyhoedd, lanlwythodd y tîm ei gynnwys i The Swansea Mumbler, sef gwefan gymunedol i’r rhai sy’n gysylltiedig ag Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu.

Gyda chynulleidfa ryngwladol, fel y tîm ei hun, mae The Swansea Mumbler a’r myfyrwyr sy’n cyfrannu ato wedi chwarae rôl hanfodol wrth weithio ar un o’r digwyddiadau uchaf ei broffil yng nghalendr y Brifysgol. Mae’r Ysgrifennydd Clinton ei hun wedi diolch i aelodau’r tîm am eu gwaith caled.

Meddai Dr Richard Thomas, Pennaeth Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe, “Rydym yn falch o fod wedi cynnull tîm rhyngwladol i weithio ar y digwyddiad hynod bwysig hwn. Dyma dîm byd-eang sy’n gweithio ar uwchgynhadledd byd-eang!

“Mae’r Hwb Cyfryngau Byw wedi rhoi’r cyfle i fyfyrwyr weithio o dan amodau sy’n debyg i bwysau ystafell newyddion yn y byd go iawn, gan eu galluogi i greu cynnwys diddorol sy’n cwmpasu meysydd newyddiaduraeth, gwneud ffilmiau a chysylltiadau cyhoeddus.

“Yn anad dim, rydym yn gobeithio bod ein cyhoeddiadau o’r materion hollbwysig hyn sy’n llunio’n

bywydau ni yn y dyfodol wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’n hadran, ein prifysgol a doniau ein myfyrwyr.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle