Brechiadau Atgyfnerthu yn cyrraedd 70,000

0
309
MERTHYR TYDFIL, WALES - JANUARY 04: A close-up of a Oxford-AstraZeneca vaccine vial containing 10 doses at Pontcae Medical Practice on January 4, 2021 in Merthyr Tydfil, Wales. The Oxford-AstraZeneca COVID-19 vaccine was administered at a handful of hospitals today before being rolled out to hundreds of GP-led sites across the country this week.

Mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod bron i 70,000 dos o frechlynnau atgyfnerthu wedi’u rhoi ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro erbyn dydd Sul 7 Tachwedd.

Yn y saith niwrnod rhwng dydd Llun 1 a dydd Sul 7 Tachwedd, rhoddwyd cyfanswm o 15,125 dos o frechlynnau atgyfnerthu yn saith canolfan brechu torfol Hywel Dda, ochr yn ochr â bron i 1,000 dos cyntaf ac ail a 500 trydydd dos i bobl imiwnoataliedig.

Er bod angen gwneud mwy, a bod staff yn gweithio ar gyflymder, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) unwaith eto yn gofyn i’r rheini sy’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu COVID-19 i beidio â chysylltu â’r tîm archebu trwy e-bost neu ffôn i ofyn am eu hapwyntiad atgyfnerthu neu fynd i ganolfan brechu torfol heb apwyntiad ar yr adeg hon.

Bydd pawb sy’n gymwys yn derbyn llythyr apwyntiad rhwng 24 a 29 wythnos yn dilyn eu hail frechlyn. Byddwch yn amyneddgar ac aros am eich llythyr.

Bydd hyn yn cadw’r llinellau ffôn a’r e-bost yn glir i’r rhai sydd wedi derbyn eu hapwyntiad ac sydd angen cysylltu â ni i naill ai aildrefnu eu brechiad neu drefnu cymorth cludiant.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Er y gellir rhoi’r brechlyn atgyfnerthu chwe mis ar ôl eu dos olaf, ymddengys bod yr amddiffyniad rhag y clefyd difrifol o’r ddau ddos cyntaf yn dirywio’n araf iawn. Rydym yn gwybod bod pobl yn awyddus i gael eu dos atgyfnerthu cyn gynted â phosibl, ond nid oes angen poeni os rhoddir y brechlyn atgyfnerthu ychydig wythnosau ar ôl y cyfnod o chwe mis.

“Mae’r bwrdd iechyd yn ysgrifennu at bawb sy’n gymwys i gael dos brechiad atgyfnerthu COVID-19 gydag apwyntiad mewn trefn gronolegol, yn seiliedig ar y dyddiad y rhoddwyd eu hail ddos iddynt. Yn dilyn adborth, mae aelodau hŷn ein poblogaeth bellach yn cael eu hamserlennu neu eu haildrefnu ar gyfer apwyntiadau yn ystod y dydd. Mae hyn yn cyfyngu ar nifer yr apwyntiadau sydd ar gael, ond rydym yn gweithio’n galed i gynnig apwyntiad cyn gynted â phosibl.

“Gall pobl ddisgwyl derbyn llythyr rhwng 24 a 29 wythnos yn dilyn eu dos brechlyn diwethaf. Os yw wedi bod yn llai na 30 wythnos ers eich dos brechlyn diwethaf, arhoswch am eich llythyr apwyntiad a pheidio â chysylltu â’r bwrdd iechyd na mynychu canolfan frechu dorfol heb apwyntiad.”

Ar hyn o bryd mae’r grwpiau canlynol yn gymwys i gael brechiad atgyfnerthu COVID-19 mewn canolfan brechu torfol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

  • 50 oed neu’n hŷn
  • 16 oed neu’n hŷn ac mewn mwy o berygl o coronafeirws oherwydd cyflyrau iechyd sylfaenol
  • 16 oed neu’n hŷn ac yn byw gyda rhywun sydd â gwrthimiwnedd
  • 16 oed neu’n hŷn ac yn ofalwr di-dâl, yn weithiwr cartref gofal neu’n weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol rheng flaen

Os yw wedi bod yn fwy na 30 wythnos ers i chi dderbyn ail frechiad COVID-19, rydych chi’n gymwys ac nid ydych wedi derbyn apwyntiad ar gyfer eich brechlyn atgyfnerthu, gofynnwch am apwyntiad trwy un o’r ffyrdd canlynol a byddwn yn ateb o fewn saith diwrnod gwaith:

Ychwanegodd Bethan Lewis, “Yn anffodus, dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld cynnydd mewn cam-drin geiriol wedi’i gyfeirio tuag at ein staff a’n gwirfoddolwyr. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac rydym yn pledio gyda phawb sy’n gymwys i gael eu dos atgyfnerthu i fod yn amyneddgar.

“Pan fydd gennych apwyntiad, i gyrraedd dim mwy na 30 munud cyn amser eich apwyntiad. Bydd hyn yn ein helpu i gadw amseroedd apwyntiadau pobl ac osgoi ciwiau hir y tu allan i’n hadeiladau.

“Mae diogelwch staff a chleifion o’r pwys mwyaf, a gwerthfawrogir eich cydweithrediad a’ch cefnogaeth ar y mater hwn yn fawr iawn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle