Mae cyn-aelod y Lluoedd Arfog, Jef Luke, 78 oed, o Bont Myrddin, Hwlffordd, wedi creu CD teyrnged oâi gerddoriaeth gitâr i godi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda.
Dywedodd Jef, sydd bellach wedi ymddeol ar Ă´l treulio 24 mlynedd yn y Llynges Fasnachol aâr Llynges Frenhinol, ei fod gwir wedi mwynhau gwneud y caneuon, er ei fod weithiau mewn poen oherwydd ei arthritis.
âRoeddwn i eisiau codi arian i ddweud diolch i’r llawfeddygon aâr staff gwych yn Ysbyty Llwynhelyg a driniodd fy mhartner Iris, pan gafodd ganser y coluddyn ddwy flynedd yn Ă´l, a gofalu amdani ar Ă´l llawdriniaeth,â meddai. âRydyn niân dau yn ddiolchgar yn dragwyddol.
âFelly, fe wnes i greuâr CD fel teyrnged i’n GIG, ffordd amatur i dolch i’r gweithwyr proffesiynol yn y GIG. Nid yw geiriauân ddigonol.
âRwyf wedi rhoi enwau doniol i’r caneuon i roi rhywfaint o hiwmor i’r prosiect. Maeâr CD yn cynnwys fiân chwaraeâr gitâr dros drac cefnogol o ganeuon. Dechreuais ar ddechrau 2021 ar ol cael fy ysbrydoli gan y Capten Syr Tom Moore.
âHefyd, diolch arbennig i’r nyrs ysgol a roddodd fy mrechlyn COVID-19 cyntaf imi. Roedd hiân wirfoddolwr, yn arwres go iawn. Pan ddaeth i wybod bod gen i ofn afiach o bopeth meddygol, arhosodd gyda mi am y 20 munud cyfan roeddwn i yno.â
Teitl CD Jef yw âThe Angels of the NHSâ ac maeân costio ÂŁ5. Gall Elusennau Iechyd Hywel Dda bostio un os byddwch chiân cysylltu â nhw ar Fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk neu maen nhw ar gael yn Sycamore Store, Bont Myrddin neu Computer Kingdom, Aberdaugleddau.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, eu bod yn ddiolchgar I Jef am ei brosiect cerddorol.
âMae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,â meddai Nicola.
I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle