Clywed lleisiau pobl ifanc

0
229
JM high five child
Welsh Government News

Ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant [20 Tachwedd], bydd pobl ifanc o bob cwr o Gymru yn cwrdd â Gweinidogion o bob rhan o Lywodraeth Cymru i godi eu llais.

Mae cynhadledd flynyddol Cymru Ifanc yn gyfle i bobl ifanc siarad yn uniongyrchol â Gweinidogion am faterion sy’n bwysig iddyn nhw.

Fe gafodd y digwyddiad ei gynllunio a’i drefnu gan aelodau o Fwrdd Prosiect Cymru Ifanc, a bydd yna drafodaethau a gweithdai ar amrywiol bynciau, gan gynnwys: newid hinsawdd, iechyd meddwl a lles, a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd 15-20 o bobl ifanc o gefndiroedd a phrofiadau o bob math, o bob rhan o Gymru, yn ymuno â phob sesiwn.

Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn 2004. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn i hyrwyddo hawliau plant, addawodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ystyried safbwyntiau pobl ifanc wrth lunio polisi a gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Ymhlith y Gweinidogion a fydd yn bresennol mae:

  • Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford
  • Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan
  • Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James
  • Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle
  • Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt

Dywedodd Julie Morgan:

Rydyn ni wedi rhoi’r lle canolog i blant a phobl ifanc yn barhaus wrth lunio polisi ac wedi arwain y ffordd ar Hawliau Plant. Mae cynadleddau fel hon heddiw yn arddangos ein hymrwymiad clir i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed yng nghanol y llywodraeth. Drwy glywed droson ni ein hunain y pryderon a’r materion sy’n effeithio ar blant, fe allwn ni wneud gwell penderfyniadau a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol.

Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl ifanc ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw, a gweithio ar draws y llywodraeth i ymgorffori’r safbwyntiau hyn mewn polisi.”

Dywedodd Mark Drakeford:

Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwrando ar safbwyntiau plant a phobl ifanc. Dyna pam dw i’n edrych ymlaen cymaint at y sesiynau trafod hyn.

“Mae rôl gref gan bobl ifanc Cymru o ran llywio ein polisïau a’n syniadau wrth inni weithio i greu Cymru decach, werddach, fwy llwyddiannus fyth.

Dywedodd Nirusgab Sudarsan a fydd yn ymuno â’r gynhadledd:

“Mae cynhadledd Cymru Ifanc yn caniatáu i bobl ifanc o bob math siarad â Gweinidogion am sut i ddatrys rhai o’r materion mwyaf. Mae Newid Hinsawdd; Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant; ac Iechyd Meddwl a Lles yn flaenoriaethau i bobl ifanc, ac mae gyda ni’r syniadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth positif i’n bywydau.”

Dywedodd Sienna Pincott a fydd hefyd yno:

“Mae’n gynhadledd gyffrous. Dw i a phobl ifanc eraill yn edrych ymlaen ati, a dw i’n edrych ymlaen yn arbennig at siarad â Gweinidogion ar ddiwrnod plant y byd. Dw i eisiau gwybod beth sy’n cael ei wneud ynghylch cynhesu byd-eang, a beth mae Gweinidogion yn ei wneud am y peth. Fe ddylai mwy o bobl ifanc wybod am newid hinsawdd a chwarae rôl yn y broses o wneud penderfyniadau.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle