Academyddion o Brifysgol Abertawe’n defnyddio’r pandemig i gyflwyno gêm arloesol i ysgolion

0
304

Mae academyddion a myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi defnyddio profiadau a dealltwriaeth o bandemig Covid-19 i ddatblygu gêm ryngweithiol ac arloesol.

Mae Trust the Experts , a ddarperir ar gyfer disgyblion rhwng 15 a 18 oed, yn dangos sut gall gwybodaeth arbenigol ddylanwadu ar brosesau penderfynu hollbwysig.

Mae’r chwaraewyr yn ymgymryd â rôl Prif Weinidog newydd ei ethol Aberdemig, gwlad ddychmygol yn Ewrop, sy’n darganfod bod pandemig byd-eang marwol yn digwydd.

Er mwyn gwneud penderfyniadau allweddol, megis a ddylid cau ffiniau’r wlad a beth yw’r ffordd orau o gyfathrebu â phoblogaeth y wlad, bydd y chwaraewyr yn cael cyngor gan amrywiaeth o academyddion o Gyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, a fydd yn helpu i lywio eu meddylfryd.

Wrth i’r gêm fynd rhagddi, bydd chwaraewyr yn gweld sut mae eu penderfyniadau’n effeithio ar amrywiaeth o fetrigau, megis mynegai hapusrwydd y wlad, ymddiriedaeth yn y llywodraeth a chyflwr iechyd y genedl.

Ar ben myfyrio ar yr anawsterau gwleidyddol-gymdeithasol y mae arweinwyr y byd wedi eu hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r gêm wedi cael ei dylunio i helpu myfyrwyr i fagu sgiliau astudio allweddol, megis dadansoddi gwybodaeth anghyson o ffynonellau amrywiol.

Meddai Jen McBride, Rheolwr Prosiect Trust the Experts, sy’n dilyn cwrs MSc mewn Marchnata Strategol“Mae’r gêm yn ffordd gyffrous ac arloesol o ennyn meddylfryd beirniadol a sgiliau dadansoddi disgyblion ysgol. Gobeithio hefyd y bydd yn agor eu llygaid ynghylch sut gall astudio’r dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol effeithio ar fywydau pobl, yn lleol ac yn fyd-eang.”

Datblygwyd Trust the Experts drwy gyllid grant gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac fe’i crëwyd mewn cydweithrediad â Big Lemon, cwmni datblygu apiau yn ne Cymru.

Lansiwyd y gêm eisoes ar ffurf rhagolwg mewn nifer bach o ysgolion partner, a chafwyd adborth cadarnhaol gan athrawon a disgyblion.

Meddai un ysgol: “Mae’r gêm wedi cael ei dylunio’n wych ac mae ganddi ryngwyneb sy’n ei gwneud

hi’n hawdd deall a chyflawni tasgau. Mae’n adnodd effeithiol iawn i fagu sgiliau penderfynu.”

Drwy ddatblygu’r fenter arloesol hon, mae’r Brifysgol yn ysbrydoli disgyblion ysgol y genhedlaeth nesaf ac yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

Meddai Dr Joanne Berry, un o brif academyddion tîm Trust the Experts ac Athro Cysylltiol yn y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg: “Mae’r prosiect wedi bod yn gyfle gwych i rai o fyfyrwyr disgleiriaf a gorau’r Brifysgol, gan eu galluogi i gael profiad dilys o amgylchedd gwaith go iawn, ond mewn lleoliad croesawgar a diogel prifysgol.”

Meddai Sophie Legg, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata’r Prosiect, sy’n dilyn cwrs BSc mewn Rheoli Busnes (Marchnata): “Mae gweithio ar y prosiect hwn wedi bod yn gyfle amhrisiadwy, fel rhan o’m gweithgareddau allgyrsiol, i gael profiad o lunio strategaethau cyfathrebu ar gyfer marchnata sydd wedi fy ngalluogi i fagu hyder yn fy sgiliau marchnata.”

Mae’r gyfadran hefyd yn datblygu pecyn cynhwysfawr i athrawon, gan roi cyngor i athrawon ynghylch sut i ymgorffori’r gêm yn eu cwricwla.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle