Adam Price: Cytundeb Cydweithio i “adeiladu’r genedl” yn “flaendal ar annibyniaeth”

0
258
Adam Price AM - Leader of Plaid Cymru

Heddiw bydd Adam Price AS Arweinydd Plaid Cymru yn annerch Cynhadledd Flynyddol Rithwir ei blaid gan alw’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn “flaendal ar annibyniaeth” sy’n cynrychioli math newydd o wleidyddiaeth.

Wrth gyfeirio at y Cytundeb Cydweithio pellgyrhaeddol sy’n cynnwys 46 maes polisi radical i adeiladu’r genedl, bydd Adam Price AS yn talu teyrnged i aelodau’r Blaid ac ymgyrchwyr sydd wedi gwneud cinio ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn “realiti.”

Wrth gyfeirio at y meysydd polisi sy’n cael eu cynnwys yn y Cytundeb, bydd Adam Price AS yn dweud:

“Mae pob plentyn ysgol gynradd yn mynd i gael prydau ysgol yn rhad ac am ddim. A Phlaid Cymru sydd wedi gwneud hynny’n realiti. Rydych chi wedi gwneud hyn.

“Chi aelodau Plaid Cymru, a’r ymgyrchwyr ar lawr gwlad, sydd wedi llythyru, llefaru a llafurio dros newid.

“I’r rheini sy’n dweud wrthych chi beth yw pwrpas gwleidyddiaeth, neu pam ddylen nhw drafferthu i bleidleisio, gallwch chi ateb yn fwy pendant byth o’r wythnos hon ymlaen.

“Mae Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth.”

Wrth drafod goblygiadau’r Cytundeb i ddyfodol Cymru, mae disgwyl i Arweinydd y Blaid ddweud:

“Dyma Raglen Lywodraeth i adeiladu’r genedl fydd yn newid bywydau miloedd o bobl ledled ein gwlad er gwell.

“Golyga hyn y bydd Plaid Cymru yn trawsnewid ei hunan o fod yn Wrthblaid draddodiadol yn synnwyr San Steffan i rywbeth newydd a gwahanol, Cyd-wrthblaid – yn cydweithio ble fo’n bosib ond yn parhau i herio, i graffu ac i feirniadu pan fo’r angen.

“Nid oes cynsail o fewn gwleidyddiaeth yr ynysoedd hyn o ran beth sydd ar y gorwel. Mae’n Ymadawiad Cymreig cwbl unigryw o’r Cyfansoddiad Prydeinig – blaendal ar annibyniaeth os mynnwch – er bod trefniadau tebyg wedi eu mabwysiadau mewn mannau eraill – yn bennaf yng ngwledydd Sgandinafia megis Sweden, Denmarc a Norwy; ac yng ngwledydd y Gymanwlad megis Seland Newydd. Mae gwledydd bychan yn torri cwys newydd.”

O ran y cyfansoddiad a dyfodol Cymru fel cenedl annibynnol, mae disgwyl i Adam Price AS ddweud:

“Credaf hefyd fod etholiad Mai wedi cadarnhau statws Cymru fel cenedl sy’n chwilfrydig am annibyniaeth.

“Chwilfrydedd a fydd yn esgor ar Gymru annibynnol – a hynny’n gynt na’r disgwyl.

“I Gymru fod yn rhydd, rhaid iddi’n gyntaf fod yn unedig.

“A dyna beth mae’r Cytundeb Cydweithio hwn yn ceisio ei gyflawni. Mae’n ein lansio ar lwybr tua Chymru unedig, un a fydd yn gynt nag y mae rhai yn ei ddisgwyl yn canfod ei bod yn gysurus a naturiol, yn wir, yn hanfodol i ymuno gyda’r gymuned ryngwladol o genhedloedd normal, annibynnol.

“Fel y dywedais ar risiau’r Senedd yr wythnos hon – os caiff ei gymeradwyo fory, bydd y Cytundeb Cydweithio yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf y gaeaf.

“Drwyddo, byddwn gyda’n gilydd yn plannu “hedyn dan yr eira” i dyfu Cymdeithas newydd, Cymru newydd, a dechrau newydd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle