Elusennau Iechyd Jywel Dda ar rodd Ford Gron Caerfyrddin

0
224
n y llun mae Llywydd y Ford Gron Huw Roberts (dde), yr Is-gadeirydd Marc Ingram (ail chwith); Aelod o'r Ford Gron Mike Hilton (chwith) a Scott Davies a'i fam Lynwen Maskell gyda'r sie
Mae Ford Gron Caerfyrddin wedi rhoi £250 i gefnogi Scott Davies sy'n codi arian ar gyfer yr Uned Dydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

Cafodd Scott, sy'n dad i ddau, ddiagnosis o Lymffoma Clasurol Hodgkins ym mis Hydref 2020 yn ddim ond 25 oed ac mae'n derbyn cemotherapi yn yr uned.

Mae pob un o deulu Scott wedi bod yn rhan o godi arian ar gyfer yr Uned Dydd Cemotherapi, gan gynnwys ei bum chwaer, Anti Caris a Mamgu.

Dywedodd Huw Roberts, Llywydd y Ford Gron: “Pan glywsom fod Scott a’i deulu yn codi arian i gefnogi’r Uned Cemotherapi yn Glangwilli roeddem am gynorthwyo gyda rhodd o £250 at yr achos da hwn.” 

I gefnogi Scott a'i godi arian ewch i https://uk.virginmoneygiving.com/Team/ScottsGotThis



Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle