Er mai dim ond yn ddiweddar y mae wedi gwella o COVID-19, fe redodd Bryan Hughes, ynghyd â’i gefnder Gerald Brace, farathon a gyda’i gilydd ac fe wnaethant godi £1,585 gwych ar gyfer Gwasanaethau Canser y Prostad yn Ysbyty Glangwili. Cymerodd y pâr ran ym Marathon Casnewydd i ddweud diolch am y driniaeth a gafodd tad Bryan, Delroy Hughes, yn Ysbyty Glangwili ar ôl iddo gael diagnosis o Ganser y Prostad ym mis Gorffennaf 2019. Roedd yn her enfawr i'r ddau, yn enwedig gan mai dim ond yn ddiweddar yr oedd Bryan wedi gorffen hunan ynysu ar ôl cael diagnosis o coronafeirws. Dywedodd Bryan, 42, o Hwlffordd: “Roedd yn ymdrech enfawr gan nad oeddwn yn teimlo 100 y cant, ond roeddwn yn teimlo mor falch ac emosiynol i gyrraedd y linell derfyn. “Roeddwn i’n meddwl mai dim ond 10k y byddwn wedi llwyddo ei gyflawni ar ôl cael Covid, felly roedd yn foment mor gofiadwy gallu dweud wrth dad fy mod wedi cwblhau’r marathon cyfan.” Ychwanegodd Gerald, 51, o Sageston: “I mi, roedd y pum milltir olaf yn uffern wrth i mi deimlo poen a gorfod cerdded neu loncian i gyrraedd y llinell derfyn! “Hoffem ein dau ddweud diolch enfawr i bawb a roddodd arian, a brynodd docynnau raffl, a rhoi neu drefnu gwobrau raffl. “Rydyn ni'n dau wedi gwella'n dda nawr, ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi gorffen a chodi'r swm o arian wnaethon ni at achos mor wych.” Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, eu bod am ddiolch i Bryan a Gerald am ymdrech, yn enwedig pan oedd Bryan yn gwella ar ôl COVID-19. “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai Nicola. “Da iawn i Bryan a Gerald.” I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle