Cydweithrediad newydd i ddarparu cyfleoedd ymchwil ac arloesi

0
208
MoU - TriTech and WWIC

Mae mentrau i wella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru ar y gweill diolch i gydweithrediad newydd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) a Chanolfan Arloesi Clwyfau Cymru (WWIC).

Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y sefydliadau, a fydd yn gweld atebion arloesol yn cael eu datblygu i hyrwyddo cyfleoedd ar draws ymchwil technoleg gofal clwyfau, a fydd yn cryfhau iechyd cleifion yng Nghymru ymhellach.

Mae 2.2 miliwn o bobl ledled y DU â chlwyfau cronig, ac amcangyfrifir y bydd eu rheoli yn costio £5.3 biliwn y flwyddyn i’r GIG. Mae llawer o gleifion (87%) yn derbyn gofal yn y gymuned gan nyrsys ardal gyda chefnogaeth rhwydwaith unigryw o dros 748 o nyrsys arbenigol hyfywedd meinwe. Mae cwmnïau gofal clwyfau datblygedig byd-eang yn dewis Cymru fel eu hoff leoliad, yn rhannol oherwydd ein seilwaith ymchwil glinigol o safon fyd-eang a phroffil WWIC ym mharth clwyfau.

Bydd rôl y bwrdd iechyd yn cael ei chyflawni gan Sefydliad Tritech, a sefydlwyd gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu gwasanaethau penodol mewn datrysiadau gofal iechyd arloesol. Mae Tritech yn cefnogi datblygiad datrysiadau gofal iechyd ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang, gan gynnig un pwynt mynediad i’r GIG i ddylunwyr a gweithgynhyrchwyr trwy ddull cydweithredol ac ystwyth.

WWIC yw’r ganolfan iachau clwyfau genedlaethol gyntaf ledled y byd a dyma’r cyfleuster blaenllaw ar gyfer arloesi clinigol yng Nghymru. Mae wedi arloesi a chefnogi datblygiad a phrofi therapïau a diagnosteg newydd ynghyd ag arwain sawl rhaglen gwella gwasanaeth a thrawsnewid. Mae WWIC wedi’i seilio ar gefnogi rhaglenni addysg a hyfforddiant ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol ac mae’r tîm yn doreithiog wrth ledaenu a hyrwyddo ymarfer clinigol trwy ei broffil cyhoeddi a chyflwyno gweithredol ynghyd â’i gydweithrediadau.

Dywedodd yr Athro Chris Hopkins, Arweinydd Gwyddonol a Phennaeth Tritech: “Mae cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd TriTech yn cyd-fynd â rhai WWIC, ac mae’r bartneriaeth hon yn un sy’n canolbwyntio’n llwyr ar gyfrannu a gwella iechyd a llesiant pobl Cymru.”

Dywedodd Maureen Fallon, Prif Swyddog Gweithredu WWIC: “Gan adeiladu ar gryfderau unigol a chyfunol pob sefydliad, rydym o’r farn y bydd y berthynas gydweithredol hon rhwng WWIC a Tritech yn ychwanegu gwerth i bobl sy’n byw gyda a’r rhai sy’n darparu triniaeth i bobl â chlwyfau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle