Caneuon Soffa Nadolig AUR

0
361
Yn y llun gwelir Rachel Parry a Cheryl Davies, arweinwyr sesiwn GoldiesLive .

Pan orfodwyd 220 o sesiynau canu poblogaidd GOLDIES yn ystod y dydd ar draws Lloegr a Chymru ym mis Mawrth 2020 oherwydd Covid, trodd yr elusen at y rhyngrwyd a lansio “canu soffa” ar Facebook ac YouTube gyda sesiynau ddwywaith yr wythnos gyda holl ganeuon Goldies poblogaidd o’r 70au ac ymlaen.

Caiff sesiynau GoldiesLIVE.com eu darlledu ar ddyddiau Mawrth ac Iau bob wythnos a chânt eu harwain gan Rachel a Cheryl, dwy o arweinwyr sesiwn poblogaidd yr elusen. Ychwanegwyd sesiwn ychwanegol yn y Gymraeg, dan arweiniad Sian, yn yr hydref diwethaf. Mae sesiynau GoldiesLIVE.com yn cyrraedd cannoedd o bobl mewn partneriaeth gyda llawer o grwpiau cymorth i’r henoed, sefydliadau i bobl hŷn, cartrefi ymddeol, awdurdodau lleol a chynghorau tref.

Yn ystod yr Nadolig bydd yr holl alawon hoff ar gael ar Goldies LIVE.com gyda rhifyn Nadolig arbennig ar Noswyl Nadolig. Dywedodd Rachel Parry, arweinydd rhaglen Goldies:

“Mae hwn yn amser mor unig ar gyfer llawer o bobl hŷn y mae Covid wedi effeithio hyd yn oed fwy ar eu bywydau. Gobeithiwn y bydd llawer yn mwynhau eu Nadolig gyda ni a rydym eisiau ymestyn allan i bawb, yn arbennig deuluoedd a chymdogion pobl sy’n ynysig a hoffwn atgoffa pawb y gellir edrych eto a mwynhau’r sesiynau ar YouTube ar unrhyw amser.”

Mae elusen Goldies wedi ailddechrau rhai sesiynau yn Lloegr ac mae cynlluniau ar y gweill i gynyddu eu nifer drwy 2022. Ni chaiff sesiynau eu caniatáu yng Nghymru ar hyn o bryd er fod yr elusen yn barod i ailddechrau pan y caiff rheolau eu llacio.

Bu GoldiesLIVE.com yn bosibl oherwydd cefnogaeth y Loteri Genedlaethol yn Lloegr a Chymru, Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post a Sefydliad Moondance yng Nghymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle